Mae dros 7000 o apwyntiadau ar-lein wedi'u cynnal ym Mhowys dros y 12 mis diwethaf drwy wasanaeth ymgynghoriadau fideo GIG Cymru.
Mae'r ystadegau wedi'u rhyddhau fel rhan o ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru sy'n codi ymwybyddiaeth o sut y gall cleifion gael apwyntiad diogel gyda’u meddyg teulu, deintydd, fferyllydd neu optegydd drwy apwyntiadau rhithwir.
Mae cleifion therapi lleferydd ledled Powys wedi elwa ar gymorth ar-lein. Mae Tara Louviere-Cowen yn uwch therapydd lleferydd arbenigol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae'n arwain y gwasanaeth Cyfathrebu Amgen a Chynyddol (AAC) lleol newydd a ddechreuodd ym Mhowys fis Awst diwethaf, gan weithio gyda phlant ac oedolion na allant ddefnyddio lleferydd fel eu prif ffordd o gyfathrebu:
"Mae ymgynghoriadau rhithwir yn ein helpu i asesu a chefnogi cleifion. Rydym wedi cynnig hyfforddiant a chefnogaeth rithwir i helpu i ddatrys problemau wrth ddefnyddio eu systemau cyfathrebu. Mae llawer o'r hyn a wnawn hefyd yn ymwneud ag uwchsgilio eraill fel athrawon, rhieni a gofalwyr."
"Mae’r defnydd o dechnoleg rithwir, oherwydd Covid, wedi cyflymu trywydd ein gwaith gydag aelodau o'r tîm ehangach gan gynnwys ysgolion gan ein bod wedi gallu darparu hyfforddiant ar-lein pwrpasol. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr mewn atgyfeiriadau, sy'n wych oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, a gallwn ei ddarparu i fwy o bobl sydd ei angen."
Eisoes ym Mhowys, mae dosbarthiadau ymarfer corff yn cael eu cynnal ar-lein sy'n caniatáu i gleifion aros yng nghysur eu cartrefi eu hunain gan osgoi teithio i glinigau. Eglurodd Aled Falvey, Pennaeth Proffesiynol Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Er gwaethaf yr heriau rydym wedi'u hwynebu, mae Covid-19 wedi cyflymu cynnydd ein datblygiadau digidol. Mae gennym ffurflen hunangyfeirio ar-lein, ac anfonir holiaduron asesu a fideos ymarfer corff at gleifion drwy e-bost. Hefyd, mae ymgynghoriadau gyda ffisiotherapydd neu sesiynau ymarfer corff grŵp bellach ar gael drwy dechnoleg fideo hawdd ei defnyddio. Yn gyffredinol, rydym yn anelu at gynnig mwy o ddewis i gleifion yn y dyfodol, ble bynnag maen nhw’n byw ym Mhowys."
"Gall cleifion adsefydlu'r ysgyfaint nawr ymuno â grŵp ymarfer corff ar-lein, gan wella mynediad i unrhyw un sy'n byw ym Mhowys, fel y gall mwy o bobl gael budd o'r rhaglen ragorol hon a'r gobaith yw, maes o law, y bydd rhestrau aros yn cael eu lleihau."
Mae rhai apwyntiadau un-i-un hefyd yn cael eu cynnal ar-lein. Roedd Arthur Gwynn, 63 oed, o Grai ger Pontsenni, yn amheus pan ddywedwyd wrtho gyntaf y byddai apwyntiadau ffisiotherapi yn cael eu cynnal ar-lein:
"Roeddgen i boen yn fy ysgwydd ers sawl blwyddyn ond ar ôl cael diagnosis o salwch hirdymor, roedd y sganiau a'r triniaethau amrywiol yn anodd iawn i ymdopi â nhw ac roedden nhw’n eithaf poenus.
"Awgrymodd y meddyg ffisiotherapi ond roedd yn siom i mi glywed y byddai'n digwydd ar-lein. Serch hynny, mae wedi bod yn wych ac yn llwyddiannus iawn. Fe wnaeth fy ffisiotherapydd, Chloe, ganfod y broblem ar unwaith a dangos ymarferion i mi eu gwneud. Byddai'n gwirio fy nghynnydd ym mhob apwyntiad ac yn addasu'r ymarferion.
"Roedd mynychu unrhyw apwyntiad – yn enwedig ym Mhowys lle mae'n rhaid i chi yrru i bobman – yn boenus yn ystod fy nhriniaeth felly roedd yn gymaint o ryddhad cael ffisiotherapi yng nghysur fy nghartref fy hun! Roedd mor gyfleus. Doeddwn yn rhagweld y byddai mor llwyddiannus â hyn ac rwy'n hynod ddiolchgar am yr amser a'r cymorth a roddwyd i mi."
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflymu'r broses o gyflwyno gwasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru i helpu'r GIG i fynd i'r afael â Covid-19, bydd y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ar raddfa eang fel y gall cleifion gael gofal iechyd mewn modd cyfleus ac amserol, nawr ac yn y dyfodol.
Meddai Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, "Efallai fod y ffordd rydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG wedi newid ond rydyn ni yma i chi o hyd. Mae'n debygol y byddwch yn cael cynnig ymgynghoriad dros y ffôn neu’r fideo. Mae'n ddiogel a bydd yn eich helpu i weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn ffordd fwy cyfleus, gan arbed amser i chi a'ch cadw'n ddiogel."
Mae ymgynghoriadau rhithwir yn gyflym ac yn hawdd i'w sefydlu drwy eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur personol presennol ac nid oes angen gosodiadau na lawrlwythiadau.