Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros 7000 o apwyntiadau ar-lein wedi'u cynnal ym Mhowys dros y 12 mis diwethaf drwy wasanaeth ymgynghoriadau fideo GIG Cymru.

Mae dros 7000 o apwyntiadau ar-lein wedi'u cynnal ym Mhowys dros y 12 mis diwethaf drwy wasanaeth ymgynghoriadau fideo GIG Cymru.

Mae'r ystadegau wedi'u rhyddhau fel rhan o ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru sy'n codi ymwybyddiaeth o sut y gall cleifion gael apwyntiad diogel gyda’u meddyg teulu, deintydd, fferyllydd neu optegydd drwy apwyntiadau rhithwir.

Mae cleifion therapi lleferydd ledled Powys wedi elwa ar gymorth ar-lein. Mae Tara Louviere-Cowen yn uwch therapydd lleferydd arbenigol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae'n arwain y gwasanaeth Cyfathrebu Amgen a Chynyddol (AAC) lleol newydd a ddechreuodd ym Mhowys fis Awst diwethaf, gan weithio gyda phlant ac oedolion na allant ddefnyddio lleferydd fel eu prif ffordd o gyfathrebu:

"Mae ymgynghoriadau rhithwir yn ein helpu i asesu a chefnogi cleifion. Rydym wedi cynnig hyfforddiant a chefnogaeth rithwir i helpu i ddatrys problemau wrth ddefnyddio eu systemau cyfathrebu. Mae llawer o'r hyn a wnawn hefyd yn ymwneud ag uwchsgilio eraill fel athrawon, rhieni a gofalwyr."

"Mae’r defnydd o dechnoleg rithwir, oherwydd Covid, wedi cyflymu trywydd ein gwaith gydag aelodau o'r tîm ehangach gan gynnwys ysgolion gan ein bod wedi gallu darparu hyfforddiant ar-lein pwrpasol. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr mewn atgyfeiriadau, sy'n wych oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, a gallwn ei ddarparu i fwy o bobl sydd ei angen."

Eisoes ym Mhowys, mae dosbarthiadau ymarfer corff yn cael eu cynnal ar-lein sy'n caniatáu i gleifion aros yng nghysur eu cartrefi eu hunain gan osgoi teithio i glinigau. Eglurodd Aled Falvey, Pennaeth Proffesiynol Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Er gwaethaf yr heriau rydym wedi'u hwynebu, mae Covid-19 wedi cyflymu cynnydd ein datblygiadau digidol.  Mae gennym ffurflen hunangyfeirio ar-lein, ac anfonir holiaduron asesu a fideos ymarfer corff at gleifion drwy e-bost. Hefyd, mae ymgynghoriadau gyda ffisiotherapydd neu sesiynau ymarfer corff grŵp bellach ar gael drwy dechnoleg fideo hawdd ei defnyddio.  Yn gyffredinol, rydym yn anelu at gynnig mwy o ddewis i gleifion yn y dyfodol, ble bynnag maen nhw’n byw ym Mhowys."

"Gall cleifion adsefydlu'r ysgyfaint nawr ymuno â grŵp ymarfer corff ar-lein, gan wella mynediad i unrhyw un sy'n byw ym Mhowys, fel y gall mwy o bobl gael budd o'r rhaglen ragorol hon a'r gobaith yw, maes o law, y bydd rhestrau aros yn cael eu lleihau."

Mae rhai apwyntiadau un-i-un hefyd yn cael eu cynnal ar-lein. Roedd Arthur Gwynn, 63 oed, o Grai ger Pontsenni, yn amheus pan ddywedwyd wrtho gyntaf y byddai apwyntiadau ffisiotherapi yn cael eu cynnal ar-lein:

"Roeddgen i boen yn fy ysgwydd ers sawl blwyddyn ond ar ôl cael diagnosis o salwch hirdymor, roedd y sganiau a'r triniaethau amrywiol yn anodd iawn i ymdopi â nhw ac roedden nhw’n eithaf poenus.

"Awgrymodd y meddyg ffisiotherapi ond roedd yn siom i mi glywed y byddai'n digwydd ar-lein. Serch hynny, mae wedi bod yn wych ac yn llwyddiannus iawn. Fe wnaeth fy ffisiotherapydd, Chloe, ganfod y broblem ar unwaith a dangos ymarferion i mi eu gwneud. Byddai'n gwirio fy nghynnydd ym mhob apwyntiad ac yn addasu'r ymarferion.

"Roedd mynychu unrhyw apwyntiad – yn enwedig ym Mhowys lle mae'n rhaid i chi yrru i bobman – yn boenus yn ystod fy nhriniaeth felly roedd yn gymaint o ryddhad cael ffisiotherapi yng nghysur fy nghartref fy hun! Roedd mor gyfleus. Doeddwn yn rhagweld y byddai mor llwyddiannus â hyn ac rwy'n hynod ddiolchgar am yr amser a'r cymorth a roddwyd i mi."

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflymu'r broses o gyflwyno gwasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru i helpu'r GIG i fynd i'r afael â Covid-19, bydd y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ar raddfa eang fel y gall cleifion gael gofal iechyd mewn modd cyfleus ac amserol, nawr ac yn y dyfodol.

Meddai Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, "Efallai fod y ffordd rydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG wedi newid ond rydyn ni yma i chi o hyd. Mae'n debygol y byddwch yn cael cynnig ymgynghoriad dros y ffôn neu’r fideo. Mae'n ddiogel a bydd yn eich helpu i weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn ffordd fwy cyfleus, gan arbed amser i chi a'ch cadw'n ddiogel."

Mae ymgynghoriadau rhithwir yn gyflym ac yn hawdd i'w sefydlu drwy eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur personol presennol ac nid oes angen gosodiadau na lawrlwythiadau.

Rhannu:
Cyswllt: