Mae cam cyntaf rhaglen frechu COVID-19 y sir wedi canolbwyntio'n ddealladwy ar weithwyr iechyd a gofal oherwydd y gofynion penodol iawn ar gyfer rheoli tymheredd, trin, storio a defnyddio'r brechlyn Pfizer / BioNTech.
Yr wythnos nesaf bydd yr apwyntiadau braenaru cyntaf ar gyfer nifer fach o bobl 80 oed a hŷn yn Powys. Bydd y rhain ar sail gwahoddiad yn unig.
Bydd yr apwyntiadau braenaru hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein systemau'n barod ar gyfer ein rhaglen frechu gyhoeddus ehangach, a fydd yn cychwyn yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Pan fydd ein rhaglen frechu gyhoeddus yn cael ei lansio yn y Flwyddyn Newydd, cysylltir ag aelodau o'r cyhoedd yn uniongyrchol i'w gwahodd i gael eu brechu, gan ddechrau gyda phobl 80 oed a hŷn.
Yn y cyfamser, gofynnwn i bawb beidio â chysylltu â'u meddyg teulu, fferyllydd neu fwrdd iechyd i ofyn am apwyntiad.