Neidio i'r prif gynnwy

Arbed Bywyd Cymru

Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru i annog pobl i ddysgu CPR ac i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio di-ffib petai rhywun annwyl iddynt yn cael ataliad ar y galon yn y cartref.

Yng Nghymru yn flynyddol, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad ar y galon allan yn y gymuned a bydd llai na 5% yn goroesi.  Nod  Achub Bywyd Cymru yw cynyddu’r gyfradd oroesi hon yn sylweddol.

Mae’r ymgyrch Cyffwrdd â Bywyd yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau sylfaenol CPR a diffibrilio -  cynigir hyfforddiant ar-lein oherwydd Covid-19.  I wylio’r fideo hyfforddi byr a chael mwy o wybodaeth, ewch i  llyw.cymru/achubbywydcymru

 

Rhannu:
Cyswllt: