Neidio i'r prif gynnwy

Archebu ar-lein bellach ar gael ar gyfer apwyntiadau atgyfnerthu ym Mhowys

Mae archebu ar-lein bellach ar gael ar gyfer apwyntiadau atgyfnerthu.

Gallwch ddewis slot yn un o'n canolfannau brechu torfol ar gyfer eich brechiad atgyfnerthu os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Rydych chi'n 18 oed neu'n hŷn
  • Rydych chi wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys NEU rydych chi'n weithiwr iechyd a gofal rheng flaen ym Mhowys NEU rydych chi'n fyfyriwr sy'n dychwelyd o'r brifysgol / coleg i'ch cartref ym Mhowys
  • Roedd eich ail ddos fwy na thri mis yn ôl
  • Nid ydych wedi cadarnhau COVID yn ystod y tri mis diwethaf, ac nid ydych yn ddifrifol wael.

Ewch i'n tudalen archebu i gael mwy o fanylion.

Rhannu:
Cyswllt: