Arolwg Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol GIG Cymru ar Brofiadau Gofal Iechyd Meddwl yng Nghymru
Bob dydd mae angen help gan bobl â salwch meddwl neu drallod emosiynol. Rydym eisiau deall profiadau unigolion sydd wedi cyrchu gofal iechyd meddwl yng Nghymru.. Bydd yr arolwg hwn yn ein cefnogi i wella gwasanaethau a thrwy gwblhau'r arolwg gallwch helpu i lunio dyfodol gwasanaethau yng Nghymru. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Bydd pob ateb yn cael ei drin yn gyfrinachol ac ni fydd yn effeithio ar y gofal a gewch.
Datblygwyd yr arolwg gan Sefydliad Picker, elusen annibynol ymchwil iechyd a cymdeithasol, mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol GIG Cymru.
Ni ddylai'r holiadur hwn gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau. Cwblhewch naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg [dewisir iaith ar frig ochr dde tudalen yr arolwg]. Mae copïau papur ar gael ar gais.
Dolen i'r arolwg yma: https://picker.fra1.qualtrics.com/jfe/form/SV_bdN1Nw7SyeMLNbL
Rydym yn diolch i chi am eich amser yn cwblhau'r arolwg hwn.
Dyddiad Cau: 16 Ebrill 2021