Gall Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys drin oedolion a phlant 1 oed a hŷn.
Gofynnwn ichi ffonio cyn ymweld â'n Unedau Mân Anafiadau. Bydd ein nyrsys arbenigol yn gallu rhoi cyngor i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad i chi, neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yw'n briodol.
Bydd galw heibio ar gael os nad ydych chi'n gallu defnyddio'r ffôn.
|
8am - 8pm |
01874 615800 |
|
| Llandrindod Wells | 8am - 8pm saith diwrnod yr wythnos |
01597 828735 |
| Y Trallwng | 8am - 8pm saith diwrnod yr wythnos |
01938 558919/558931 |
| Ystradgynlais |
8:30am - 4:30pm Dydd Llun - Dydd Gwener AC EITHRIO Gwyliau Banc (Ar gau ddydd Sadwrn a dydd Sul) |
01639 844777 |
Sylwch y gall amseroedd agor pelydr-x fod yn wahanol i amseroedd agor yr Uned Mân Anafiadau, edrychwch ar y dudalennau ysbyty uchod i gael gwybodaeth am amseroedd agor pelydr-x.
Mae llawer o feddygfeydd ym Mhowys hefyd yn cynnig gwasanaeth mân anafiadau. Gwiriwch â'ch practis lleol am fanylion.
Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau gofal brys ar gael yn adran Gofal Brys ein gwefan .
Gellir trin oedolion a phlant un ddwy oed sydd ag ystod eang o anafiadau yn ein Hunedau Mân Anafiadau.
Mae'r Unedau hyn yn cael eu rhedeg gan dîm profiadol o Ymarferwyr Nyrsio Brys, Nyrsys Brysbennu a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Gwiriwch ein hadrannau isod ar yr hyn y gellir ac na ellir ei drin yn ein Hunedau Mân Anafiadau.
Bydd pobl sy’n cerdded i mewn bob amser yn cael eu derbyn, er y gall fod yn ddefnyddiol ffonio ymlaen llaw er mwyn i ni allu rhoi cyngor ar unwaith i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad i chi neu hyd yn oed eich cynghori am wasanaeth arall.
Gall defnyddwyr BSL ein ffonio drwy'r ap SignLive a chael eu cysylltu â dehonglydd BSL a'n prif switsfwrdd, a fydd wedyn yn eich trosglwyddo i'ch UMA Powys agosaf.
Gallwch ymweld ag un o'n hunedau ar gyfer:
Ni all Unedau Mân Anafiadau drin:
Gall GIG 111 Cymru helpu os oes gennych broblem feddygol frys ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud. I gael help gan GIG 111 Cymru:
- ewch i GIG 111 Cymru - Hafan (ar gyfer pobl 5 oed a hŷn yn unig)
- ffoniwch 111
Rydych chi'n ateb cwestiynau am eich symptomau ar y wefan, neu trwy siarad â chynghorydd sydd wedi'i hyfforddi'n llawn ar y ffôn a gallwch ofyn am gyfieithydd os oes angen un arnoch chi. Yn dibynnu ar y sefyllfa, byddwch yn:
- darganfod pa wasanaeth lleol all eich helpu chi
- cael eich cysylltu â Nyrs, Deintydd Brys, Fferyllydd neu Feddyg Teulu
- cael apwyntiad wyneb yn wyneb os oes angen un arnoch chi
- cael gwybod sut i gael unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch
- cael cyngor hunanofal
Os ydych chi'n profi symptomau sy'n peryglu bywyd, dylech ffonio 999 ar unwaith.

Mae gwybodaeth am Unedau Mân Anafiadau eraill yng Nghymru ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.
Mae gwybodaeth am Fân Wasanaethau Anafiadau yn Lloegr ar gael ar wefan GIG Lloegr.