28 Hydref 2026
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd pobl ledled Powys i helpu llunio dyfodol gwasanaethau lleol y GIG.
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027 ac yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnosteg.
Bydd tair ar ddeg o ddigwyddiadau lleol a thri digwyddiad ar-lein yn rhoi cyfleoedd i bobl gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, trafod y cynigion ac yna cwblhau'r holiadur. Mae manylion llawn ar gael yn biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd
Mae'r diweddaraf yn ein cyfres o erthyglau rheolaidd Gwella Gyda'n Gilydd yn esbonio beth yw'r ymgynghoriad Gwella Gyda'n Gilydd.
Gallwch ddarllen y Ddogfen Ymgynghori Lawn ar ein gwefan neu gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen y bennod "Am beth mae'r ymgynghoriad hwn?" isod.
Mae'r bennod hon yn egluro pa feysydd gwasanaeth sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad, a pha wasanaethau nad ydynt wedi'u cynnwys. Mae'n egluro'r materion rydyn ni'n eu harchwilio a pham maen nhw'n bwysig.
Mae llawer o'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gwasanaethau cymunedol y GIG iechyd corfforol a meddyliol i oedolion ym Mhowys. Mae rhai cynigion hefyd yn effeithio ar wasanaethau gofal brys ar gyfer mân anafiadau a all gael eu defnyddio gan bobl un oed a hŷn, a rhai gwasanaethau diagnostig i bob oed.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn ein helpu ni wneud penderfyniadau hirdymor ar wasanaethau lle mae newidiadau dros dro ar waith, gan gynnwys:
Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys yn uniongyrchol sut mae'r gwasanaethau canlynol yn cael eu darparu:
Gall yr ymgynghoriad hwn effeithio ar y ffordd rydym yn gweithio gyda'r gwasanaethau hyn i ddarparu'r gofal iechyd a'r canlyniadau gorau i bobl Powys.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn siarad â chleifion, cymunedau, staff a sefydliadau partner i glywed eu barn am y cyfleoedd a'r heriau i wasanaethau iechyd.
Yn seiliedig ar eu hadborth, rydym yn canolbwyntio yn gyntaf ar wasanaethau cymunedol y GIG iechyd corfforol a meddyliol i oedolion. Mae hyn oherwydd bod angen newid ar frys arnynt er mwyn iddynt allu diwallu anghenion cleifion nawr ac yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid ydym bob amser yn gallu cynnig y safonau gofal iechyd diogel ac amserol y byddem yn eu dymuno. Gallant fod yn ddibynnol ar dimau bach wedi'u gwasgaru dros ardal fawr iawn. Gallant fod yn rhy ddibynnol ar staff asiantaeth sy'n llai cyfarwydd â'n sir a'n gwasanaethau.
Rydym yn canolbwyntio ar y gwasanaethau hyn nawr. Ond mae Gwella Gyda'n Gilydd yn sgwrs barhaus. Yn y blynyddoedd i ddod byddwn yn canolbwyntio ar feysydd gwasanaeth eraill, fel Gofal wedi’i Gynllunio a Gwasanaethau i Fenywod a Phlant.
Yn y ddogfen hon, rydym yn egluro:
Ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach ar ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Yn yr ymgynghoriad hwn byddwn yn gofyn i chi:
Ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl rydym wedi cynnig un opsiwn. Ym Mhennod 8 gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau a ystyriwyd gennym a pham nad yw opsiynau eraill wedi cael eu cyflwyno i ymgynghoriad. Rydym yn ceisio eich barn ynghylch a oes ffactorau pwysig nad ydynt wedi cael eu hystyried wrth wneud yr argymhelliad hwn.
Bydd eich barn a'ch syniadau newydd yn dylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch sut rydym yn darparu'r gwasanaethau hyn ledled Powys. Bydd eich adborth yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r dogfennau a'r data ategol yr ydym wedi bod yn eu casglu ac y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon.
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cyfarfod yng Ngwanwyn 2027 i ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd a phenderfynu sut rydym yn darparu'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol.
Bydd aelodau'r Bwrdd yn ystyried popeth maen nhw wedi'i glywed yn y cyfnod cyn, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys asesiadau effaith integredig, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Rydym wedi cyhoeddi asesiadau effaith integredig drafft fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r hyn a glywn.
Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd, gan gynnwys syniadau newydd, a allai ddod i’r amlwg o’r ymgynghoriad. Dylai unrhyw syniadau newydd, ynghyd â'r opsiynau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn, fodloni meini prawf penodol. Mae rhagor o fanylion am y meini prawf hyn ar gael ym Mhennod 5.
Os caiff newidiadau eu cymeradwyo, ni fydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno dros nos. Mae angen ystyried datblygiadau i wasanaethau iechyd yn ofalus, gan weithio gyda staff a chymunedau. Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i roi’r cynigion yn y ddogfen hon ar waith, fel bod gwasanaethau’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni posibl i’w gweld ym Mhennod 10.
Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eich bod wedi cymryd yr amser i rannu eich meddyliau. Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer holl aelodau'r cyhoedd sy'n byw, yn gweithio, neu sydd â diddordeb ym Mhowys. Mae ar gyfer pawb sy'n gweithio yn y GIG, gwasanaethau iechyd a gofal ehangach, a sefydliadau partner.
Rydym yn cydnabod bod gan bobl wahanol ddiddordebau a safbwyntiau. Efallai y byddwch yn derbyn ein gwasanaethau, neu'n gofalu am rywun sy'n gwneud hynny. Gallwch weithio gyda ni fel staff, myfyrwyr, neu wirfoddolwyr. Efallai eich bod yn cynrychioli sefydliad a allai gael ei effeithio gan ein cynigion, neu efallai bod gennych ddiddordeb mewn iechyd a lles.
Mae'r rhan fwyaf o'r cynigion yn y ddogfen hon yn ymwneud â gwasanaethau i oedolion. Mae barn plant a phobl ifanc hefyd yn bwysig i ni gan fod y cynigion hyn yn effeithio ar wasanaethau Uned Mân Anafiadau i bobl un oed a throsodd, ac mae'r cynigion ehangach yn effeithio ar blant a phobl ifanc sy'n ofalwyr ifanc ac a fydd yn ddefnyddwyr gwasanaethau oedolion yn y dyfodol.
Yn ogystal â siarad â phobl yn ein hardal, byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner y GIG mewn siroedd cyfagos.
Byddwn hefyd yn gwrando ar Llais, Corff Llais y Dinasyddion statudol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a fydd hefyd yn gwrando ar bobl ledled Powys fel y gallant gynrychioli eich barn a'ch safbwyntiau. Mae gan y bwrdd iechyd ddyletswydd statudol i ystyried sylwadau gan Llais pan wneir penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod y sgiliau a'r profiadau sydd gennym o fewn ein gweithlu.
Efallai y bydd newidiadau i staff o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Gallai hyn gynnwys newidiadau i batrymau gwaith neu leoliadau gwasanaethau o bosibl.
Rydym am i'n holl weithwyr gyfrannu at ein huchelgais gyffredin am boblogaeth iachach a darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig.
Mae'r ymgynghoriad hwn ar gynigion newid gwasanaeth yn gam cyntaf pwysig. Yna byddai ymgynghoriad ar newid sefydliadol yn dilyn yn y dyfodol yn dibynnu ar y penderfyniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yng Ngwanwyn 2027. Byddem yn gweithio mewn partneriaeth ag unrhyw staff yr effeithir arnynt, a chyda chynrychiolwyr ochr staff o undebau a chymdeithasau proffesiynol, ac yn dilyn polisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan ar gyfer gweithlu'r GIG ledled Cymru.
Mae eu syniadau wedi cyfrannu at yr opsiynau yn y ddogfen ymgynghori hon. Byddwn nawr yn ymgysylltu'n eang â staff ar draws y bwrdd iechyd, yn ogystal â'n cynrychiolwyr Undebau Llafur, ar yr opsiynau ac i ddeall yr effeithiau posibl, ac i gasglu adborth a syniadau newydd.