Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn croesawu barn y gymuned drwy gyflwyniad deiseb

16 Medi 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi croesawu cyflwyniad y ddeiseb Achub Ein Gwelyau Ysbyty fel rhan o'r sgwrs barhaus am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys. 

Mae'r ddeiseb, a drefnwyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi cael ei derbyn yn ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd cyn ei gyfarfod heddiw, lle bydd aelodau'n ystyried a ddylid bwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus ehangach ar gynigion a ddatblygwyd trwy'r rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd. 

Dywedodd Helen Bushell, Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Rydym yn gwybod bod gwasanaethau iechyd lleol yn bwysig iawn i bobl Powys, ac rydym yn croesawu’r angerdd a’r ymrwymiad y mae cymunedau’n parhau i’w ddangos. 

“Mae cyflwyno’r ddeiseb Achub Ein Gwelyau Ysbyty yn gyfle pwysig i bobl leol leisio eu barn, ac rydym yn falch o’i derbyn fel rhan o’r drafodaeth ehangach am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yn ein sir. 

“Rydym am glywed gan gymunedau, trigolion, cleifion, gofalwyr, staff a phartneriaid. Mae gwrando ar wahanol brofiadau, safbwyntiau a syniadau yn ein helpu ni ddeall yn well beth sydd bwysicaf i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu. 

“Rydym yn gwybod bod amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu gofal iechyd ym Mhowys a’r ffordd orau o fynd i’r afael â nhw. Mae trafodaeth agored ac adeiladol yn rhan bwysig o sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol mor wybodus â phosibl. 

“Beth bynnag yw barn pobl, rydym wedi ymrwymo i wrando ac ymgysylltu’n barchus drwy gydol y broses hon.” 

“Mae’r rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd wedi’i datblygu mewn ymateb i’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys, gan gynnwys y galw cynyddol, pwysau ar y gweithlu a’r angen i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

"Os bydd y Bwrdd Iechyd yn cytuno i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad, bydd cyfleoedd i bobl o bob cwr o Bowys ddysgu mwy am y cynigion a rhannu eu barn drwy ddigwyddiadau ymgynghori, ymgysylltu ar-lein a gweithgareddau adborth."