Os ydych yn gymwys i gael dos y gwanwyn, caiff ei gynnig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o’r brechlyn. Os byddwch yn sâl rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, efallai y byddwch yn gallu cael y brechlyn ym mis Gorffennaf. Os byddwch yn troi’n 75 oed rhwng Ebrill a Mehefin, byddwch yn cael eich galw am eich brechiad yn ystod y rhaglen – nid oes angen i chi aros am eich pen-blwydd.
Bydd dos y gwanwyn yn cael ei gynnig i grwpiau o bobl sydd mewn mwy o berygl os ydyn nhw’n cael COVID-19. Mae’r rhain fel a ganlyn:
• pobl 75 oed a hŷn;
• preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn; ac
• unrhyw un chwe mis oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan.
Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Bydd dos y gwanwyn yn helpu i’ch amddiffyn am gyfnod hirach. Bydd hefyd yn helpu i leihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19.
Mae unigolion imiwnoataliedig yn fwy tebygol o gael salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Os oes gennych anhwylder sy'n effeithio ar eich system imiwnedd, yn cael triniaeth imiwnoataliedig, neu'n cymryd meddyginiaethau sy'n cynyddu eich risg o haint, cewch eich gwahodd i gael eich brechiad COVID-19 yn y gwanwyn.
Bydd Gwasanaeth Brechu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cysylltu â chi drwy lythyr i roi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Mae’n bwysig dod i’r apwyntiad pan gewch wahoddiad. Os na allwch fynychu neu os hoffech apwyntiad yr un pryd â ffrind neu aelod o’r teulu, rhowch wybod i’r tîm trefnu apwyntiadau fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall.
Gallwch gysylltu â'r tîm trefnu apwyntiadau dros y ffôn ar 01874 442510 neu e-bostiwch Powys.covidvacc@wales.nhs.uk.
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.
Rhyddhawyd: 27/03/2025