Bydd canolfan eni Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes a’r Cyffiniau yn cael adnewyddiad, diolch i fuddsoddiad o £120,000.
Mae'r gwaith arfaethedig yn cynnwys adnewyddu'r ystafell eni yn llwyr - gan ei gwneud yn fwy er mwyn gallu cynnal pwll geni mawr newydd yn ogystal â gwely dwbl.
Mae yna gynlluniau hefyd i foderneiddio'r holl ystafelloedd ymolchi yn y ganolfan eni ac adnewyddu’r gosodion.
Disgwylir bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau yn y Gwanwyn hwn a bydd y ganolfan eni yn cau dros dro rhwng Ionawr 23ain a diwedd Mawrth.
Mae Shelly Higgins yn Bennaeth Bydwreigiaeth ac Iechyd Rhywiol dros dro gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a dywedodd: "Rydym yn falch iawn o allu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ac rydym wedi bod yn rhoi gwybod i Famau beichiog yn uniongyrchol bod y ganolfan yn cau dros dro. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y ganolfan eni newydd yn cynnig amgylchedd llawer gwell i Famau lleol eni eu babanod."
I'r Mamau hynny sy’n disgwyl geni eu babanod yn ystod y cyfnod cau dros dro hwn, rydym wedi cynnig cymorth gyda genedigaethau cartref neu i eni yn un o'r unedau eraill dan arweiniad bydwreigiaeth yn Ysbyty Sir Drefaldwyn yn Y Drenewydd, Ysbyty Coffa Fictoria yn y Trallwng neu Ysbyty Coffa Llandrindod. Mae hefyd ganddyn nhw’r dewis i gael gofal yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford neu yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ychwanegodd Shelly: "Os oes gan unrhyw Famau lleol unrhyw bryderon neu gwestiynau am hyn, mae croeso i chi gysylltu â'ch bydwraig a enwir i siarad trwy'r hyn fyddai orau i chi a'ch babi."
Bydd yr holl ofal cynenedigol ac ôl-enedigol yn cael ei gynnig yn y cartref neu mewn safle arall o fewn yr ysbyty yn ystod y cyfnod cau dros dro.