• Cyfleusterau deintyddol gwell
• Mynediad gwell i gleifion gan gynnwys y brif fynedfa
• Cyfleusterau cegin a bwyta gwell
• £2.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru
Rydym wrth ein bodd yn cadarnhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi sicrhau buddsoddiad pellach o £2.5m gan Lywodraeth Cymru i barhau â gwelliannau ar draws y safle. Bydd hyn yn gwella cyfleusterau deintyddol, mannau sy'n wynebu cleifion, y gegin a'r ystafell fwyta.
Mae hyn yn dilyn ein camau gwaith blaenorol sydd wedi gweld uwchraddio mannau clinigol, ffenestri newydd, atgyweiriadau i’r to, gwelliannau sylweddol i waith cynnal a chadw sydd heb ei wneud a gwelliannau i ddiogelwch a mynediad ymwelwyr.
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle ym mis Mawrth 2026 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Awst 2026.
Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i leihau aflonyddwch cymaint â phosibl i gleifion ac ymwelwyr a sicrhau nad yw gwasanaethau clinigol y cael eu heffeithio.
Fodd bynnag, bydd rhai gwelliannau mawr eu hangen i fannau cyhoeddus gan gynnwys y brif fynedfa. Efallai y bydd adegau pan ofynnwn i chi fynd i mewn i'r ysbyty trwy fynedfa wahanol i'r arfer. Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Ewch i'n gwefan am y diweddariadau diweddaraf: https://biap.gig.cymru/newyddion/nodweddion/diweddariadau-gwasanaeth/