9 Medi 2026
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried a ddylid dechrau un o'r sgyrsiau cyhoeddus mwyaf arwyddocaol am ddyfodol gwasanaethau lleol y GIG ers cenhedlaeth.
Yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2026, bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried a yw cynigion Gwella Gyda'n Gilydd ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnostig yn barod ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Mae'r cynigion yn ymateb i heriau mawr sy'n wynebu gwasanaethau iechyd. Mae pobl yn byw'n hirach, yn aml gyda nifer o gyflyrau hirdymor; mae'r galw'n cynyddu; ac mae recriwtio a chadw'r gweithlu sydd ei angen i gynnal gwasanaethau bach ar draws sir wledig fawr yn dod yn fwyfwy anodd.
Mae Gwella Gyda'n Gilydd yn gofyn sut y dylai gwasanaethau'r GIG esblygu dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt fel eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy, gan helpu mwy o bobl i aros yn iach, aros yn annibynnol a derbyn gofal gartref neu'n agosach at adref.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol. Gofynnir i'r Bwrdd a yw'r dystiolaeth, yr opsiynau a'r trefniadau ategol yn barod i'w profi drwy ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Mae pob opsiwn yn cadw gwasanaethau ym mhob safle ysbyty cymunedol ym Mhowys. Mae pob opsiwn hefyd yn cynnwys camau sylweddol i wella'r gwasanaethau cymunedol sydd ar gael yng nghartrefi pobl ac, wrth i'r gwelliannau hyn gael eu cyflawni, byddai'r angen am ofal mewn gwelyau yn lleihau. Felly mae'r opsiynau ymgynghori yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda gwelyau cleifion mewnol ysbytai cymunedol ar lai o safleoedd nag nawr.
Byddai opsiynau’n cryfhau ymatebion cymunedol brys ac yn sefydlu Canolfannau Gofal Brys, ar agor o 8yb i 8yh, saith diwrnod yr wythnos, gydag ystod ehangach o wasanaethau asesu, triniaeth a diagnostig nag y gall Unedau Mân Anafiadau presennol eu darparu.
Byddai hefyd yn cryfhau iechyd meddwl cymunedol, ymateb i argyfyngau, GIG 111 Cymru Pwyso 2 a gwasanaethau lloches, ochr yn ochr ag un ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal cleifion mewnol iechyd meddwl organig a swyddogaethol yn ardal Bronllys / Aberhonddu.
Dywedodd Dr Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Gofynnir i’r Bwrdd ystyried a yw’r cynigion hyn yn barod i’w harchwilio drwy ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Ein cyfrifoldeb ni yw ystyried a yw'r dystiolaeth, yr opsiynau a'r wybodaeth ategol wedi'u datblygu'n ddigonol i symud ymlaen i'r cam pwysig nesaf hwn. Os caiff yr ymgynghoriad ei gymeradwyo, rydym am i bobl brofi'r dystiolaeth, herio ein ffordd o feddwl, a helpu llywio'r hyn sy'n digwydd nesaf.
“Mae’r argymhellion sy’n cael eu hystyried gan y Bwrdd ar 16 Medi wedi’u llywio gan adborth gan filoedd o gleifion, preswylwyr, staff y GIG a sefydliadau partner dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Nid penderfyniad yw hwn ar hyn o bryd ynghylch cyfluniad gwasanaethau yn y dyfodol. Dim ond ar ôl ymgynghori’n llawn ac ystyrlon y gellid gwneud penderfyniadau o’r fath.”
Dywedodd Kate Wright, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol:
"Mae llawer o dystiolaeth wedi dod i’r amlwg am niwed o ganlyniad i arosiadau hir yn yr ysbyty. Mae'n amlwg y byddai system iechyd a all cynnig mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol yn darparu gofal a chanlyniadau gwell i gleifion."
“Mae’r cynigion hyn yn archwilio sut y gallwn ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i genedlaethau’r dyfodol, cefnogi mwy o bobl i aros yn iach ac yn annibynnol, a chadw gofal cleifion mewnol i’r rhai na ellir diwallu eu hanghenion yn ddiogel gartref. Maen nhw'n canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau cymunedol i gleifion ag anghenion corfforol ac Iechyd Meddwl.”
Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r ymgynghoriad arfaethedig yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027. Byddai adborth ar yr ymgynghoriad, cynigion amgen a thystiolaeth newydd yn cael eu hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Y cynllun presennol yw i'r Bwrdd ystyried argymhelliad yn dilyn ymgynghoriad yng ngwanwyn 2027.
Mae papurau'r bwrdd a dogfennau ategol ar gael o wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: Cyfarfodydd Bwrdd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys