Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac OKKO Health yn cyhoeddi cydweithrediad i gefnogi cleifion sy'n byw gyda Dirywiad Macwlaidd

Yn fuan, bydd cleifion ym Mhowys yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect arloesol hwn i alluogi cleifion â dirywiad macwlaidd i fonitro eu golwg ar eu ffonau clyfar eu hunain, rhwng apwyntiadau cleifion allanol wedi'u trefnu.  Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyffrous i fod yn gweithio ar gydweithrediad arloesol gydag OKKO Health, arweinydd mewn technoleg iechyd llygaid.

Dywedodd Amanda Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi a Gwella, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd ag OKKO Health a gweithredu'r ap hwn i archwilio'r manteision yn y byd go iawn i gleifion ac i'n gwasanaeth gofal llygaid yn gyffredinol. Byddwn yn cynnig cyfle i gleifion Powys sy'n mynychu ein clinigau AMD Gwlyb yn Ysbytai Llandrindod ac Aberhonddu ddefnyddio'r dull newydd hwn."

Mae technoleg OKKO Health yn ap meddygol, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn Ne Cymru, y gellir ei lawrlwytho ar ffôn clyfar personol y claf.  Mae'r ap yn cynnwys gemau pos syml sy'n cael eu defnyddio'n wythnosol gan gleifion i hunan-wirio eu golwg, tra hefyd yn cynnig y gallu i gleifion hunan-olrhain triniaeth, symptomau a derbyn cynnwys addysgol.

Mae dirywiad macwlaidd yn glefyd llygaid sy'n bygwth golwg ac yn effeithio ar y golwg canolog a all fynd trwy gyfnodau actif o waethygu. Mae triniaeth ar gael ar gyfer ffurf weithredol y clefyd ('AMD gwlyb') ac mae dal ail-actifadu'n gynnar yn bwysig er mwyn cynnal golwg. Felly, mae'n rhaid i gleifion sydd â dirywiad macwlaidd ymweld â chlinigau llygaid i'w monitro'n rheolaidd, boed hynny gyda'u hoptegwyr neu yn yr ysbyty lleol. 

Credir bod y cyfle i fonitro cyfnodau ail-actifadu’r cyflwr gartref hefyd yn cynyddu hyder a diogelwch cleifion ac yn y pen draw y nod yw sicrhau gwell canlyniadau golwg i gleifion; gan fod canfod ail-actifadu’n gynnar yn caniatáu i gleifion gael cyfeirio’n gyflym at driniaeth.

Dywedodd Dr Stephanie Campbell, optometrydd a sylfaenydd OKKO Health, "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda thîm mor ymroddedig ac angerddol yn BIAP, gan ddod â'r dechnoleg hon adref i Gymru ac yn edrych ymlaen at ddarparu ar gyfer y bobl sy'n byw gyda dirywiad macwlaidd ym Mhowys".

Gofynnir i gleifion, teuluoedd neu ofalwyr a hoffai gael mwy o wybodaeth am yr ap hwn gysylltu â'r Tîm Ymchwil, Arloesi a Gwella yn BIAP drwy anfon e-bost at bright.ideaspowys@wales.nhs.uk

Rhyddhawyd: 30/08/2024

Rhyddhawyd: 22/08/2024

Rhannu:
Cyswllt: