19 Mehefin 2026
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i chi gymryd rhan mewn ail gam o ymgynghoriad ynghylch sut y gellid darparu gwasanaethau strôc ar draws Hywel Dda. Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud, ac mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i ffurfio'r hyn sy'n digwydd nesaf.
Maen nhw'n cynnal digwyddiad ddydd Mawrth 30 Mehefin 2026 o 2pm i 7pm yn Y Plas ym Machynlleth,
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ysgrifennu :
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ail gam o ymgynghoriad ynghylch sut y gellid darparu gwasanaethau strôc ar draws Hywel Dda. Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud, ac mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i ffurfio'r hyn sy'n digwydd nesaf.
Sut i gymryd rhan
Mae'r ymgynghoriad ar agor rhwng 28 Mai a 26 Gorffennaf 2026 ac mae sawl ffordd i gymryd rhan.
Os ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn dymuno i ni ddod i gwrdd â chi, cysylltwch â ni i drefnu sesiwn. Cysylltwch â ni drwy e-bost hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk, neu drwy ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5)
Mae ein digwyddiadau lleol yn cael eu cynnal ar:
Mae ein digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal ar:
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad ar-lein trwy rannu eich manylion yma (yn agor mewn tab newydd)
Rydym eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys cleifion, teuluoedd, gofalwyr, staff a chymunedau lleol. Gallwch ddweud wrthym a ydych chi'n cefnogi'r opsiwn a ffefrir a pham, a rhannu eich barn ar opsiynau amgen blaenorol. Mae hwn yn gyfle i chi ein helpu i ddeall unrhyw effeithiau y gall y cynigion eu cael arnoch chi, eich cymuned, yr iaith Gymraeg neu gydraddoldeb.
Beth sy'n cael ei gynnig
Mae'r opsiwn a ffefrir yn cynnwys:
Gallwch hefyd rannu eich barn ar yr opsiynau eraill sydd wedi'u hystyried.
Pam mae hyn yn bwysig
Ar hyn o bryd nid yw gofal strôc ar draws Hywel Dda yn bodloni safonau cenedlaethol yn gyson. Mae gwasanaethau wedi'u gwasgaru ar draws pedwar ysbyty ac nid yw gofal strôc arbenigol ar gael saith diwrnod yr wythnos ym mhob lleoliad. Gall hyn effeithio ar adferiad a chanlyniadau i gleifion.
Yn dilyn ymgysylltu cynharach yn 2025, mae gwaith pellach wedi'i wneud i brofi opsiwn a ffefrir. Mae hyn bellach wedi'i ddatblygu, gan dynnu ar syniadau a gyflwynwyd yn flaenorol fel rhan o'r ymgynghoriad cynharach.
Mae'r holl wybodaeth am y cynnig, a'r holiadur ymgynghori ar gael ar ein tudalennau gwe ymgynghori (yn agor mewn tab newydd). Darperir deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau ac ieithoedd i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan.
Rhannwch eich barn erbyn 26 Gorffennaf a helpu i lunio dyfodol gofal strôc yn ein hardal.