Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn Cymeradwyo Parhau â Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau

Diweddariad ar 30 Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys heddiw wedi cadarnhau ei fod parhau â newidiadau dros dro i wasanaethau a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2024, yn dilyn gwerthusiad chwe mis. 

Yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf 2025, ystyriodd y Bwrdd dystiolaeth fanwl ar effaith y newidiadau dros dro i ofal brys a gwasanaethau cleifion mewnol ledled Powys. Roedd hyn yn cynnwys adborth gan gleifion, staff a phartneriaid, yn ogystal â data ar ddiogelwch, canlyniadau clinigol a phrofiad cleifion. 

Mae'r Bwrdd wedi cymeradwyo'r argymhelliad i gynnal y model gwasanaeth presennol ymhellach dros dro. 

Mae hyn yn cynnwys: 

  • Unedau Mân Anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod i barhau i weithredu o 8yb i 8yh. 
  • Unedau Cleifion Mewnol yn Llanidloes a Bronllys i barhau i ganolbwyntio ar gleifion a aseswyd yn Barod i Fynd Adref. 
  • Unedau Cleifion Mewnol yn y Drenewydd ac Aberhonddu i barhau i ganolbwyntio ar gleifion sydd angen adsefydlu mwy arbenigol. 

Dywedodd Dr Carl Cooper, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd: 

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhannu eu barn a’u profiadau gyda ni. Mae hwn wedi bod yn benderfyniad ystyriol, wedi'i seilio ar dystiolaeth ac wedi'i arwain gan ein hymrwymiad at ofal diogel, o ansawdd uchel.” 

“Cyflwynwyd y newidiadau dros dro i fynd i’r afael â heriau sylweddol o ran cynaliadwyedd gwasanaethau lleol y GIG. Mae tystiolaeth yn dangos y gall aros am gyfnod hir yn yr ysbyty—yn enwedig i bobl hŷn—arwain at ddirywiad corfforol cyflym. Nod y model gwasanaeth dros dro yw cefnogi pobl i wella'n fwy effeithiol yn y lleoliad cywir.” 

Ychwanegodd Kate Wright, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol:  

“Ein blaenoriaeth bob amser yw darparu gofal sy'n ddiogel, yn effeithiol, ac yn dosturiol. Mae'r gwerthusiad yn dangos bod y newidiadau hyn wedi helpu gwella canlyniadau cleifion a lleihau oedi mewn gofal. Byddwn yn parhau i fonitro’r effaith yn agos, gan ddysgu o brofiad cleifion a staff.” 

Camau Nesaf 

Mae gwaith wedi bod yn digwydd yn ystod yr haf drwy raglen Gwella Gyda'n Gilydd y Bwrdd Iechyd i lunio dyfodol gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel i Bowys. Nod y Rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd yw gwneud penderfyniadau hirdymor ynghylch siâp gwasanaethau iechyd parhaol yn y sir yn y dyfodol, a disgwylir ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni. 

Bydd y newidiadau dros dro’n parhau yn eu lle dros y misoedd nesaf tra bod y rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd yn parhau, a disgwylir i gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol cael eu cynnal ar draws Powys o hydref 2025. 

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau dros dro i'r gwasanaethau ar gael yn biap.gig.cymru/drosdro-2025

Mae rhagor o wybodaeth ar Gwella Gyda’n Gilydd ar gael yn biap.gig.cymru/gwellagydangilydd