Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn ystyried argymhellion ar y camau nesaf mewn perthynas â newidiadau dros dro i wasanaethau ysbytai cymunedol ym Mronllys, Aberhonddu, Llanidloes a'r Drenewydd, ac i oriau agor Unedau Mân Anafiadau (UMA), yn ei gyfarfod cyhoeddus o'r Bwrdd ar y 30 Gorffennaf 2025.
Pan gafodd y newidiadau dros dro eu cymeradwyo, cydnabuwyd gan y bwrdd iechyd gryfder clir y teimlad a fynegwyd gan y cyhoedd yn ystod yr ymgysylltu, ond cydnabu hefyd y risgiau sylweddol iawn pe na bai heriau i ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau yn cael eu datrys.
Mae'r argymhellion sydd i'w hystyried yr wythnos nesaf yn dilyn gwerthusiad cynhwysfawr chwe mis o'r newidiadau dros dro a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2024. Canfu'r gwerthusiad effeithiau cadarnhaol, gan gynnwys gwell dibynadwyedd ar wasanaethau, gwell diogelwch i gleifion a staff, costau staffio is, a gwell canlyniadau i gleifion.
Gofynnir i'r Bwrdd gymeradwyo parhau gyda’r canlynol dros dro:
Os cânt eu cymeradwyo gan y Bwrdd ar 30 Gorffennaf 2025, bydd y trefniadau hyn yn parhau ar waith dros dro yn seiliedig ar benderfyniadau drwy'r rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd, sydd wrthi'n adolygu siâp gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion ym Mhowys yn y dyfodol.
Mae ymgysylltu ar Gwella Gyda'n Gilydd wedi bod yn digwydd drwy gydol 2025, gan dynnu ar ystod eang o fewnwelediadau gan gleifion, y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid. Mae dadansoddiad manwl o'r cyfleoedd a'r heriau ar gyfer gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion wedi bod yn digwydd, ac mae rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei chynllunio ar gyfer hydref 2025 i weithio gyda chymunedau ledled Powys i ddatblygu a chytuno ar siâp gwasanaethau yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/gwella-gydan-gilydd/
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn gyhoeddus, ac mae aelodau'r gymuned yn gallu dilyn y cyfarfod ar-lein trwy ei ffrydio’n fyw. Bydd yr agenda a'r papurau ar gyfer y Bwrdd, gyda dolen i'w ffrydio’n fyw, ar gael cyn y cyfarfod o wefan y bwrdd iechyd: https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/cyfarfodydd-y-bwrdd/
Byddwn yn sicrhau bod penderfyniad y Bwrdd ar 30 Gorffennaf yn cael ei rannu'n eang gyda staff, y cyhoedd a chymunedau lleol yr wythnos nesaf.