Ydych chi'n barod am argyfwng?
Gall argyfyngau bob dydd darfu ar y gwasanaethau hanfodol rydych chi'n dibynnu arnyn nhw—fel eich ffôn, dŵr, trydan a'r rhyngrwyd.
Gall cymryd camau syml i baratoi wneud gwahaniaeth mawr, gan eich helpu i ymdopi tra bo cymorth brys yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod toriad nwy, trydan neu ddŵr, efallai y gallwch roi eich enw ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth (PSR). Mae'n wasanaeth am ddim sy'n sicrhau bod cwmnïau cyflenwi yn gwybod pwy sydd angen cymorth ychwanegol. Mae llawer o aelwydydd yn gymwys, gan gynnwys y rhai sydd â phensiwn, pobl â salwch tymor hir, a theuluoedd â phlant o dan 5 oed.
Dysgwch fwy am sut i baratoi a phwy sy’n gymwys am gymorth ychwanegol yn GOV.UK/BeReady
23 Hydref 2026