Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn ofalus o Garbon Monocsid wrth wersylla – awgrymiadau diogelwch ar gyfer gwersylla hapus

Er bod yr haf y tu ôl i ni, mae'r risg o wenwyno carbon monocsid (CO) yn dal i fod yn uchel iawn wrth wersylla. Ni allwch ei weld, ei flasu na'i arogli, ond gall CO ladd yn gyflym heb rybudd. Bu nifer o farwolaethau trasig o wenwyn carbon monocsid yn gysylltiedig â'r defnydd o farbeciws o fewn pebyll, adlenni, carafannau a mannau caeedig eraill. Dysgwch sut i gadw'ch hun a'ch teulu yn ddiogel.

Bob blwyddyn yn y DU mae tua 50 o bobl yn marw a 200 yn yr ysbyty oherwydd gwenwyn carbon monocsid. Er nad yw pob un o'r rhain yn dod o wersylla, mae'r risgiau'n sylweddol uwch mewn mannau llai fel pebyll a charafannau.

  • Peidiwch byth â mynd â barbeciw i mewn i babell, adlen, carafán neu gartref modur. Mae hyd yn oed barbeciw sy’n oeri yn allbynnu llawer o garbon monocsid gwenwynig, a all ladd.
  • Peidiwch byth â defnyddio offer sy’n llosgi tanwydd i wresogi'ch pabell neu adlen. Dim ond tu allan y dylid defnyddio gwresogyddion nwy a cherosin - oni bai bod ganddyn nhw simnai neu bibell allanol. Mae stofiau a barbeciws wedi'u cynllunio ar gyfer coginio nid gwresogi gofod.
  • Peidiwch byth â rhedeg generadur nwy, petrol neu ddiesel y tu mewn carafán, cartref modur, pabell neu adlen. Gwnewch yn siŵr nad yw mwg gan generadur yn chwythu i mewn i'ch uned neu uned unrhyw un arall chwaith.
  • Peidiwch â choginio y tu mewn i'ch pabell neu adlen
  • Peidiwch â defnyddio unrhyw offer nwy, siarcol, tanwydd hylif neu solet eraill y tu mewn i babell neu adlen. Er enghraifft, mae angen digon o awyru ar oergelloedd a goleuadau sy’n cael eu pweru gan nwy, er enghraifft, i'w hatal rhag cynhyrchu carbon monocsid gwenwynig. Yn gyffredinol, nid yw pebyll ac adlenni wedi'u cynllunio gyda hyn mewn golwg.
  • Ystyriwch ddefnyddio larwm carbon monocsid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio un sy'n addas ar gyfer gwersylla a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus. Fodd bynnag, ni ddylid byth ddefnyddio larwm CO fel dewis arall i'r rhagofalon uchod.
  • Dylech sicrhau bod holl offer nwy yn eich carafán neu gartref modur yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o symptomau gwenwyno carbon monocsid a all gynnwys cur pen, cyfog, fertigo, gwendid a phoen yn y frest. Gall pobl sy'n agored i lawer iawn o CO droi’n anymwybodol yn gyflym iawn.

Os ydych chi'n meddwl y gallai fod gennych wenwyn CO, ceisiwch gyngor meddygol ar unwaith. Diffoddwch unrhyw offer a allai fod yn achosi'r broblem ac ewch i gael awyr iach.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fwy o wybodaeth ar eu gwefan am garbon monocsid yn Carbon Monocsid - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)