Neidio i'r prif gynnwy

Byw gyda dementia? Dewch i joio gyda giglan a wiglan

Mae'r rhai sy'n byw gyda dementia ym Mhowys – a'u gofalwyr – yn cael eu hannog i ‘giglan a wiglan’ gan Dementia Matters ym Mhowys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae menter gan Impelo – elusen ddawns ym Mhowys – wedi bod yn cynnal dosbarthiadau wythnosol ar-lein i'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn Llandrindod ers mis Medi diwethaf. Mae rhaglen Joio – neu ‘wiglan a giglan’ i’r rhai sy’n cymryd rhan – yn cael ei chynnal ar-lein ar hyn o bryd ond mae'r trefnwyr yn gobeithio cynnal dosbarthiadau yn y stiwdio unwaith eto, cyn bo hir. Ariannwyd y rhaglen gan Y Lab.

Lucy Bevan yw Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd:

"Mae ymarfer corff yn helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia oherwydd ei fod yn helpu'r llif gwaed i'r ymennydd a gall hefyd ysgogi twf celloedd yr ymennydd a’u goroesiad. Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol pleserus hefyd yn bwysig iawn i'ch lles emosiynol yn ogystal â'ch iechyd corfforol."

O'r rhai a gymerodd ran yn Joio, dywedodd 90% fod eu lles meddyliol wedi gwella. Meddai Suzy West o Impelo:

"Mae dawnsio yn helpu i ryddhau endorffinau – y hormonau hapus – ac rydyn ni’n sicr yn gweld pobl yn gwenu ac yn chwerthin yn ein sesiynau. Mae'r rhaglen yr un mor bwysig i ofalwyr ag ydyw i'r rhai sydd â dementia. Rydyn ni’n treulio amser yn helpu i uwchsgilio gofalwyr fel y gallan nhw gynnal eu sesiynau bach eu hunain. Mae gennym gynlluniau i hyfforddi gofalwyr cyflogedig hefyd fel y gallwn ni rannu manteision dawns ledled Powys.

"Mae rhaglenni fel hyn yn helpu i gyfoethogi ansawdd bywyd llawer o bobl ac mae ganddyn nhw’r potensial i gadw pobl allan o’r ysbyty, ac i fyw'n hapus ac yn iach, am gyfnod hirach."

Mae Impelo hefyd yn awyddus i weithio gyda chlinigau cof a wardiau dementia.

Mae Dementia Matters ym Mhowys yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ledled y sir gan gynnwys y grŵp Sgwrs a Gwau poblogaidd. Gan fod gweithgareddau wedi bod yn cael eu cynnal yn rhithwir yn ystod y pandemig, mae'r elusen wedi bod yn cefnogi pobl i fynd ar-lein:

"Yn ystod y cyfyngiadau symud, fe wnaethon ni helpu pobl i sefydlu sgwrs fideo er mwyn iddyn nhw allu siarad â'u hanwyliaid a oedd, mewn rhai achosion, ar ochr arall y byd.  Gan sicrhau bod pawb yn ddiogel, rydyn ni’n helpu pobl i gael gafael ar offer personol neu, yn fwyaf aml, yn cynnig offer i’w benthyca a’u treialu sy'n ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein.

"Rydym hefyd wedi bod yn annog pobl i fynd allan drwy ein rhaglen Natur.  Mae pobl yn tynnu lluniau o fyd natur yn ystod yr wythnos ac yn eu rhannu yn y Ganolfan Gyfarfod Rithwir wythnosol.  Rydyn ni’n dechrau cynnal grwpiau cerdded bach a dod â phobl at ei gilydd gan fod cyfyngiadau'n cael eu llacio erbyn hyn.  Rydyn ni’n trefnu digwyddiad Gemau Haf ar 2 Medi a fydd yn rhoi cyfle i bobl o bob rhan o'r sir sydd wedi cysylltu ar-lein i gwrdd â'i gilydd, ac i aelodau, gofalwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Bydd y Gemau Haf yn debyg i ffair yn yr oes a fu," ychwanegodd Deborah.

Mae Dementia Matters ym Mhowys yn cynnal canolfan gyfarfod rithwir ar hyn o bryd. Mae’r canolfannau cyfarfod ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia neu golled wybyddol yn ogystal â gofalwyr ac aelodau o'r teulu.

Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru, Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, yw annog pawb i fyw bywyd iachach. Mae nifer o bethau bach y gallwn eu gwneud i gefnogi ein lles yn ogystal â'n hiechyd corfforol ac mae cymorth lleol ar gael.

Os ydych chi'n poeni am rywun sy'n cael trafferth gyda cholli cof neu'n ei chael hi'n anodd dilyn sgyrsiau neu raglenni teledu, mae'n werth siarad â'ch meddyg. Gall diagnosis cynnar eich helpu i gael y driniaeth a'r gefnogaeth gywir. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r rhai sy'n byw gyda dementia ym Mhowys, ewch i www.dementiamatterspowys.org.uk neu ffoniwch 01597 821166 neu e-bostiwch info@dmip.org.uk

 

  • Giglan a Wiglan - bob dydd Gwener, hanner dydd - 1pm
  • Canolfan Gyfarfod Rithwir - bob dydd Iau 11am - 12.30pm
  • Grwpiau Cefnogi Gofalwyr Ar-lein - Ardal y Drenewydd: bob dydd Mawrth 11am - hanner dydd
            • Ardal Aberhonddu: bob dydd Llun 2pm - 3pm
            • Ardal Ystradgynlais: bob dydd Mawrth 1pm - 2pm
  • Sesiynau Gwybodaeth i Ofalwyr Ar-lein - misol, dydd Mercher olaf y mis, 11am - hanner dydd
  • ‘Cuppa & Compost’ (grŵp cymorth ar-lein i ddynion sy'n byw gyda Dementia) - bob pythefnos, dydd Iau 2pm - 3pm     
  • Grŵp Sgwrs a Gwau (dan arweiniad gwirfoddolwyr, y patrwm a’r deunyddiau yn cael eu hanfon ymlaen llaw) - 4ydd dydd Mercher bob mis 11am - hanner dydd