Gallwch nawr gadw lle ar Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl 2022, un ai yn bersonol neu ar-lein.
Mae'r gynhadledd am ddim a'r nod yw codi ymwybyddiaeth am anghenion gofalwyr di-dâl a rhoi cyfle iddynt rannu gwybodaeth am eu rôl gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau yn y sir.
Thema'r gynhadledd eleni yw:
Cynhelir y gynhadledd ar ddydd Gwener 25 Tachwedd rhwng 10am - 3.30 pm mewn tri lleoliad ac ar-lein:
Bydd y gynhadledd yn digwydd ar safle Bronllys, gyda'r rhan fwyaf o'r siaradwyr a'r panel yno. Bydd y cyfan yn cael ei ffrydio'n fyw i safleoedd Llandrindod a'r Drenewydd ac i ofalwyr di-dâl yn eu cartrefi.
Ymysg y siaradwyr fydd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a nifer o ofalwyr di-dâl Powys sydd â phrofiad o waith gofalu.
Dylai gofalwyr ar y tri safle, a'r rhai o adref, fod yn gallu cymryd rhan yn y trafodaethau, ar yr amod fod y dechnoleg yn gweithio yn ôl y bwriad.
Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan Academi Iechyd a Gofal Powys a Credu, sefydliad sy'n helpu teuluoedd a ffrindiau ar draws Powys sy'n gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl.
Meddai Jenny O'Hara Jakeway, Prif Weithredwr Credu: "Dyma gyfle gwych i ofalwyr di-dâl Powys ddod at ei gilydd a rhannu profiadau gyda'i gilydd a gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gallu helpu i lunio'r gwasanaethau maen nhw'n ei dderbyn.
"Bydd hefyd yn gyfle iddynt gael seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu ac i wneud cysylltiadau newydd gydag eraill sydd yn yr un cwch â nhw."
I gadw lle, ewch i: Powys Unpaid Carers Conference 2022 / Cynhadledd Gofalwyr Di-Dâl Powys 2022 Tickets, Fri 25 Nov 2022 at 10:00 | Eventbrite
Am fwy o wybodaeth, galwch Credu ar 01597 823800 neu ar e-bost powys.healthandcareacademy@wales.nhs.uk
Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys sy'n cynnwys nifer o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys sy'n cydweithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.
Mae'r gynhadledd yn digwydd y diwrnod ar ôl Diwrnod Hawliau Gofalwyr (dydd Iau 24 Tachwedd).
LLUN: Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, a fydd yn brif siaradwr yng Nghynhadledd Gofalwyr Di-dâl Powys 2022.
Cyhoeddwyd: 8/112022