Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n ddiogel yn ystod ŵyna

Anogir ffermwyr i gymryd gofal oherwydd y risgiau iechyd posibl sy'n gysylltiedig ag ŵyna.

Ffurfiwyd partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i godi ymwybyddiaeth ymhlith menywod beichiog, menywod o oedran geni plant, pobl â systemau imiwnedd gwan, a'r gymuned ehangach ynghylch y risgiau iechyd posibl sy'n gysylltiedig ag ŵyna.

Mae'r risgiau hyn yn cynnwys heintiau sy'n niweidiol i chi a'ch babi, y gellir eu hachosi gan ŵyn newydd-anedig, hylifau geni, ôl-enedigaeth neu eitemau halogedig fel dillad gwely, ffensys neu offer. Gall y rhain ledaenu heintiau fel Toxoplasma neu Listeria, a all achosi camesgoriad neu gymhlethdodau.

Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n feichiog, yn ceisio am fabi, neu sydd â system imiwnedd wan, cymerwch ragofalon ychwanegol i leihau risgiau haint wrth wneud gwaith fferm. Dylai rhagofalon gynnwys, newid a golchi dillad ar dymheredd uchel o 60°C o leiaf, gwisgo dillad amddiffynnol priodol, a golchi'ch dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr.

Dywedodd Stuart Bourne, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus: “Er ei bod yn anghyffredin i feichiogrwydd gael ei effeithio gan gyswllt ag anifeiliaid, gall y canlyniadau posibl fod yn ddifrifol.  

"Mae'n bwysig bod menywod beichiog a'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwan yn ymwybodol o'r risgiau yn ystod y tymor hwn ac yn cymryd rhagofalon i amddiffyn eu hunain." 

“Osgoi cysylltiad agos â mamogiaid sy’n ŵyna ac anifeiliaid eraill sy'n rhoi genedigaeth yw'r ffordd orau o leihau'r risg hon.”

Am fwy o wybodaeth am sut i leihau risg a sicrhau diogelwch yn ystod y cyfnod ŵyna, ewch i Cadw'n Ddiogel Yn ystod Cyfnod Ŵyna - Cyngor Sir Powys

 

 

Cyhoeddwyd: 05/03/2025