O ran dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, mae’n hanfodol bod buddiannau pennaf pawb yn cael eu cynrychioli. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda Llais i’ch annog chi i gael llais a helpu i siapio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru er gwell.
Corff cyhoeddus yw Llais sy’n cynrychioli buddiannau pennaf y cyhoedd o ran gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ei nod yw casglu straeon da a drwg am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn deall beth sy’n gweithio’n dda, a sut y gallai fod angen i wasanaethau wella.
Mae Llais yn deall pa mor hanfodol yw cael mynediad at y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnoch, a hynny mewn ffordd sy’n eich cefnogi chi a’ch cymuned. Felly, maen nhw’n gofyn i chi helpu i wneud i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru weithio cystal ag y gallan nhw drwy ddweud wrthym am eu profiadau, a phrofiadau’r rheini sydd agosaf atyn nhw.
A maent yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl y mae eu lleisiau’n cael eu tangynrychioli.
Felly, os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n agos ato stori i’w rhannu, gwnewch yn siŵr bod gennych chi lais. Siaradwch â Llais.
Oherwydd po fwyaf o leisiau, y mwyaf fydd eu heffaith.