12 Hydref 2026
Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dechrau proses gaffael yn fuan ar gyfer darparu gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau ym Mhowys.
Mae hon yn broses arferol a statudol sy'n ofynnol dan ddeddfwriaeth gaffael Llywodraeth Cymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal ymarferion caffael agored, teg a thryloyw ar gyfer gwasanaethau o'r natur hon. Daw contract presennol y bwrdd iechyd ar gyfer y gwasanaethau hyn i ben ym mis Medi 2027, felly bydd y broses gaffael yn sicrhau parhad y gwasanaethau pwysig hyn.
Bydd y broses gaffael ar agor i bob darparwr cymwys, gan gynnwys darparwyr presennol gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau. Bydd y broses yn canolbwyntio ar sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel, diogel a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion trigolion Powys. Ein blaenoriaeth drwyddi draw yw sicrhau bod preswylwyr yn parhau i gael mynediad at ofal meddygol cyffredinol brys o ansawdd uchel pan fydd eu meddygfa ar gau.
Hoffem sicrhau cleifion a chymunedau, tra bod y broses gaffael hon ar y gweill, y dylai pobl barhau i gael mynediad at y gwasanaeth hwn yn y ffordd arferol drwy gysylltu â GIG 111 Cymru pan fydd eu meddygfa ar gau.
Gan mai proses gaffael fasnachol yw hon, bydd cyfyngiadau ar y wybodaeth y gallwn ei rhannu tra bydd y broses yn mynd rhagddi. Mae hyn er mwyn sicrhau tegwch a chydymffurfiaeth â rheoliadau caffael i bob sefydliad sy'n cymryd rhan. Byddwn yn darparu diweddariadau lle bo'n briodol ac unwaith y bydd y broses gaffael wedi dod i ben.
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manyleb y gwasanaeth, yr amserlen gaffael a gofynion y tendr, fel rhan o'r broses gaffael ffurfiol, a chynhelir Digwyddiad Ymgysylltu â Chyflenwyr drwy Teams ar 20 Hydref 2026.