Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn rhybuddio bod cam-drin staff iechyd a gofal yn annerbyniol

Meddyg blinedig yn eistedd yn y gweithle

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi rhybuddio na fydd yn goddef nac yn derbyn cam-drin staff iechyd a gofal sy'n gweithio yn y sir.

Daw’r rhybudd wrth i lefelau o gam-drin geiriol, bygythiadau, a chodi braw yn erbyn Meddygon Teulu a’u staff gynyddu eto.

Dywedodd Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae’n peri llawer o ofid clywed bod cleifion yn cam-drin yr union bobl sy’n ceisio eu helpu ar lafar. Mae’r math hwn o ymddygiad yn annerbyniol ac nid oes lle iddo yn system iechyd a gofal ym Mhowys.

“Mae’r system gofal iechyd dan straen wrth iddi wynebu lefelau digynsail o alw. Mae cam-drin yn gwneud pethau'n waeth, gan arwain at lefelau uwch o salwch staff sy'n ychwanegu at lwythi gwaith ac yn achosi oedi y mae modd ei osgoi. Mae hefyd yn cael effaith niweidiol ar recriwtio a chadw staff, sy’n hanfodol wrth gynnal gwasanaethau gofal sylfaenol.”

Mae effaith ddynol cam-drin yn sylweddol, gan effeithio ar feddygon teulu a'u staff clinigol a staff y dderbynfa hefyd. Wrth siarad am effaith cam-drin ar staff, dywedodd Dr Waseem Aslam o Bractis Meddygol y Trallwng ac Arweinydd Clwstwr Gofal Sylfaenol ar gyfer y Practisau Meddygon Teulu yng Ngogledd Powys: “Mae gan nyrsys, meddygon, fferyllwyr, a staff derbynfa mewn Meddygfeydd swyddi hynod heriol.

“Ers y pandemig COVID-19 mae’r galw am ein gwasanaethau wedi parhau ar lefelau uchel iawn. Rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni’n gwneud, ac mae pob un o’n meddygfeydd teulu yn gweithio’n galed i ymateb i anghenion ein cymunedau lleol a’u diwallu.

“Rydyn ni’n deall bod pobl yn teimlo’n rhwystredig, ond pan fydd hyn yn troi’n ymddygiad mwy eithafol mae'n dod yn broblem fawr. Ni waeth beth yw ein swydd, dylem i gyd allu cyflawni’r rôl honno heb wynebu cam-drin geiriol, bygythiadau o drais neu fwlio ac ymddygiad bygythiol arall.

“Mae’r cynnydd yn lefelau cam-drin wedi gwneud aelodau o’n timau yn orbryderus a hyd yn oed yn ofnus o ddod i’r gwaith. Rydyn ni wir eisiau helpu pobl, ond ni fyddwn ni’n gallu parhau i ddarparu gwasanaethau oni bai ein bod ni’n gallu cadw’r staff presennol sydd gennym ni, sy’n dod yn fwyfwy anodd.”

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Phractisau Meddygon Teulu yn gofyn i'r cyhoedd i Helpu Ni i'ch Helpu Chi, a chofio bod y bobl sy’n gweithio yn eich meddygfa leol yn bobl go iawn, ac yn aml yn flinedig ac yn rhwystredig hefyd. Mae staff eich Meddygfa yn rhan o’r gymuned y maen nhw’n gwasanaethu ac yn gweithio’n galed i gefnogi pawb, felly byddwch yn garedig.

 

Cyhoeddwyd: 21/11/2022

Rhannu:
Cyswllt: