Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau COVID-19 newydd i ymwelwyr â safleoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a chlinigau cymunedol

Yn dilyn llacio’r rheoliadau ar fesurau atal a rheoli heintiau COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cadarnhau sut y bydd y mesurau’n berthnasol i’w safleoedd a chlinigau cymunedol ledled y sir.

O heddiw ymlaen ni fydd angen i ymwelwyr ag unrhyw un o safleoedd y bwrdd iechyd, sy’n cynnwys ein hysbytai a’n clinigau cymunedol, wisgo gorchudd wyneb rhagor.

Fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd yn nodi na ddylai ymwelwyr ymweld ag anwyliaid yn lleoliad gofal iechyd os ydyn nhw’n teimlo’n sâl neu os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â haint anadlol fel COVID-19 a’r ffliw. Ni ddylen nhw ychwaith ymweld os ydyn nhw’n profi symptomau tebyg i annwyd, dolur rhydd a chwydu, twymyn neu os oes ganddyn nhw frech.

Nid yw'n ofyniad cyfreithiol rhagor i wisgo gorchudd wyneb, ond bydd masgiau ar gael wrth fynedfeydd pe bai ymwelwyr yn dymuno gwisgo un.

Mae’r cam hwn yn cael ei groesawi ac yn cynnig cysur a gwell cyfleustra i bawb a bydd yn gwneud cyfathrebu’n haws i unrhyw un â nam ar y clyw.

Bydd prosesau atal a rheoli heintiau (IPC) yn parhau ar draws holl safleoedd y bwrdd iechyd. Bydd ymwelwyr a chleifion yn dal i weld y staff yn golchi dwylo'n aml ac yn defnyddio cyfarpar diogelu personol, a fydd yn dychwelyd i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

I'r rhai sy'n dymuno gwisgo un, bydd masgiau bob amser ar gael i holl ymwelwyr â safleoedd bwrdd iechyd.

 

Cyhoeddwyd: 01/06/2022