• Mae “Gwrando ar Bobl” yn disodli “Gweithio i Wella”
• Gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a rhannu eu profiad o ofal y GIG
01/04/26
O heddiw (1 Ebrill 2026) ymlaen, bydd GIG Cymru yn gweithredu newidiadau i'r ffordd yr ymchwilir i bryderon ledled Cymru.
Un o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau Gweithio i Wella presennol.
Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a/neu rannu eu profiad am ofal y GIG.
Mae'r dull newydd hwn yn rhan o ymrwymiad cenedlaethol i wella agwedd agored, tosturi a dysgu ar draws gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chyflwyno prosesau cliriach a gwell cymorth i unrhyw un sy'n dymuno siarad am eu gofal.
Beth fydd yn newid?
Mae'r canllawiau Gwrando ar Bobl newydd yn cryfhau ein hymrwymiad i fod yn agored, yn dosturiol ac i ymateb yn amserol. Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys:
Mae gan bawb yr hawl i godi pryder am ofal y GIG, a chynigir cymorth o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys:
Gellir codi pryderon gydag unrhyw aelod o staff, yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Rwy’n falch o gyflwyno Gwrando ar Bobl, dull cenedlaethol newydd Cymru o ymdrin â phryderon, cwynion, digwyddiadau ac iawndal y GIG. Mae'r canllawiau wedi'u llunio gydag un pwrpas mewn golwg: sef sicrhau bod pob unigolyn sy'n codi pryder am ei ofal yn cael ei drin ag urddas, tegwch, tosturi a pharch. Mae hyn yn rhoi ar waith yr egwyddor bod pob llais yn bwysig.
“Ledled Cymru, mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr wedi dweud wrthym y gall codi pryder fod yn frawychus. Dim ond ar adegau o ofid, ansicrwydd neu golled y mae llawer o bobl yn dod ymlaen. Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, neu y gallai codi eu llais effeithio ar eu gofal yn y dyfodol.
“Hoffwn eich sicrhau bod codi pryder yn un o’r hawliau sydd gennych chi, ond mae hefyd yn rhan hanfodol o sut rydym yn gwneud ein GIG yn fwy diogel, yn decach ac yn well i bawb. Ni fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol am godi’ch llais. Yn hytrach, bydd eich llais yn ein helpu ni i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu.”
Pam mae'r newidiadau hyn yn bwysig
Mae'r rheoliadau newydd hyn yn cryfhau’r ffordd y mae GIG Cymru yn dysgu o bryderon ac yn defnyddio adborth cleifion i wneud gwelliannau. Bydd gofyn i sefydliadau’r GIG ddangos sut maen nhw’n gweithredu ar y gwersi hynny i wneud gwasanaethau’n fwy diogel ac yn fwy ymatebol.
Mae rhagor o wybodaeth am y rheoliadau Gwrando ar Bobl, gan gynnwys canllawiau ar sut i godi pryder, ar gael yma.
Gwasanaeth Aros yn Iach
Os ydych chi'n glaf ar restr aros am driniaeth, neu'n adnabod rhywun sydd angen cefnogaeth tra bydd yn aros, gall y Gwasanaeth Aros yn Iach helpu. Mae'r tîm yn cynnig un pwynt cyswllt i roi cefnogaeth a chyngor ar reoli eich iechyd, gan eich cyfeirio at wasanaethau priodol.
Dysgu mwy a chadw mewn cysylltiad
Os hoffech gael y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, cofrestrwch i dderbyn ein bwletinau e-bost rheolaidd yn https://biap.gig.cymru/newyddion/cofrestrwch-in-bwletinau-newyddion-e-bost-am-ddimns/