Cafodd dros 7,500 o becynnau prawf llif unffordd cyflym eu dosbarthu o'r ganolfan brofi asymptomatig a sefydlwyd i brofi ymwelwyr a fynychodd y Ffair Aeaf eleni nad oedd ganddynt bàs Covid, meddai'r cyngor sir.
Trefnwyd y ganolfan, a leolwyd ar faes y Sioe Frenhinol wrth gynnal y Ffair Aeaf, gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae’r ddau wedi bod yn arwain dull y sir o Brofi, Olrhain a Diogelu ar y cyd â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Cafodd 77 o bobl eu profi yn y ganolfan dros y ddau ddiwrnod gyda dim ond un person yn profi'n bositif. Rhoddwyd cyngor i’r unigolyn ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru drwy archebu prawf PCR a hunanynysu.
Tra buodd y ganolfan yn gweithredu, ymwelodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS a siarad â staff. Diolchodd i'r rhai sy'n ymwneud â Phrofi, Olrhain a Diogelu am eu gwaith trwy gydol y pandemig.
Croesawyd y Gweinidog i'r ganolfan gan y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ymweld â'r ganolfan yn ystod y Ffair Aeaf i gwrdd â'n staff gweithgar yn y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu," meddai'r Cynghorydd Harris.
"Mae'r Ffair Aeaf yn ddigwyddiad pwysig sy'n denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ac rydym yn falch ei fod yn digwydd yn ein sir. Fodd bynnag, rydym yn parhau i deimlo effaith y pandemig felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn cynnal y digwyddiadau hyn yn ddiogel.
"Roedd y ganolfan brofi asymptomatig yn bwysig i brofi'r rhai nad oedd ganddynt bàs Covid ac i wirio nad oedd Coronafeirws arnynt. Wrth wneud hyn, roedd pob ymwelydd yn gallu mwynhau’r Ffair Aeaf yn ddiogel a gwnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i Gadw Powys yn Ddiogel."
Dywedodd Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Rhaglen Brechu COVID a Phrofi, Olrhain a Diogelu gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae profi’n bwysicach nag erioed ar ôl canfod yr amrywiolyn Omicron a chadarnhad o'r achosion cyntaf yn y DU.
"Mae’r ffordd rydym yn cydweithio yn y Ffair Aeaf yn helpu i Gadw Cymru'n Ddiogel. Ar ben ein gwaith Profi, Olrhain a Diogelu, mae maes y sioe wedi bod yn chwarae rhan hanfodol fel canolfan frechu COVID dros y flwyddyn ddiwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny yn yr wythnosau i ddod."
Dywedodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: "Mae cynnal digwyddiadau diogel yn flaenoriaeth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Powys i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfyngiadau COVID ar y safle.
"Mae creu canolfan profi pwrpasol ar faes y sioe yn ganlyniad i'r gwaith partneriaeth rhagorol hwnnw. Wrth i ni fyfyrio ar Ffair Aeaf lwyddiannus, ry’n ni’n edrych ymlaen nawr at ddychwelyd i'r arfer gyda dyddiadur llawn o ddigwyddiadau yn 2022."