Wedi 17 mis a dros 62000 dos o frechlyn, mae’r drysau wedi cau yn y ganolfan frechu COVID-19 ar faes y Sioe Frenhinol.
Dywedodd Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Rhaglen Brechu a Phrofi Olrhain Diogelu COVID-19 gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Dim ond oherwydd cefnogaeth hael iawn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru y bu llwyddiant y rhaglen frechu COVID-19 ym Mhowys yn bosibl. Mae'r Pafiliwn Gwyrdd wedi bod yn gartref i ni ers mis Ionawr 2020, ac mae miloedd o bobl wedi ymweld am eu dos cyntaf a'u hail ddosau, y pigiadau atgyfnerthu cyntaf, ac yn fwy diweddar ar gyfer eu pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn.
"Oherwydd y rhaglen frechu a Phrofi Olrhain Diogelu, rydym yn gallu dychwelyd yn araf i'r gweithgareddau hynny nad oeddent yn bosibl yn ystod cyfyngiadau angenrheidiol pandemig COVID. Felly, er bod ein tîm yn drist i ffarwelio â Maes y Sioe, mae hwn hefyd yn gyfnod o lawenydd a gobaith wrth i'r sir baratoi ar gyfer y Sioe Frenhinol gyntaf ers 2019.
"Fel gwlad rydym i gyd nawr yn ceisio dod o hyd i'r ffordd gywir o fyw gyda COVID, felly mae'n hanfodol bod pawb yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i Gadw Powys yn Ddiogel. Mae COVID yn dal i fod gyda ni, fel y gwelir o'r cynnydd diweddar mewn achosion. Manteisiwch ar y cynnig o frechiad COVID. Cofiwch fod yr awyr agored yn fwy diogel na dan do. Os oes gennych symptomau, arhoswch gartref a cheisiwch osgoi cyswllt ag eraill."
Dywedodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: "Roedd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn o allu darparu ein cyfleusterau am ddim i gefnogi'r rhaglenni brechu a phrofi fel rhan o'r frwydr yn erbyn COVID. Rydym yn falch ein bod wedi chwarae rhan yn y rhaglen lwyddiannus hon, ond nawr mae'n rhaid i ni edrych ymlaen at ein Sioe Frenhinol gyntaf ers 2019, sy'n argoeli i fod yn sioe arbennig."
Bydd canolfan frechu newydd yn agor yn Llandrindod yn ddiweddarach y mis hwn, yn hen adeilad Llywodraeth Cymru, yn barod i ddarparu pigiadau atgyfnerthu yr hydref i’r rhai sy’n gymwys amdano, unwaith y bydd hyn wedi ei gadarnhau gan y Cydbwyllgor Prydeinig ar Frechu ac Imiwneiddio.
Mae rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn bellach wedi dod i ben yng Nghymru. Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, cynigiwyd pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn i bobl 75+ oed, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn, a phobl 12+ oed sydd ag imiwnedd ataliol difrifol. Os oeddech yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn ond eich bod yn sâl yn ystod mis Mehefin ac yn methu â derbyn eich gwahoddiad, yna cysylltwch â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn Ail Frechlyn Atgyfnerthu - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru) neu drwy ffonio ein canolfan frechu COVID-19 ar 01874 442510.
Gyda newidiadau i brofion COVID yn digwydd ledled y wlad, mae’r ganolfan brofi COVID hefyd wedi symud o Faes y Sioe. Mae rhagor o wybodaeth am brofion COVID ym Mhowys ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn Profi Coronafeirws - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)