Neidio i'r prif gynnwy

Cau'r A493 i'r gogledd o Fachynlleth dros dro yn ystod mis Chwefror 2024

Road Ahead Closed road sign informing traffic of conditions ahead in both English and Welsh language
Eich cefnogi chi tra bod ffordd yr A493 ar gau ym mis Chwefror 2024

Mae Contractwyr Alun Griffiths wedi ein cynghori bod yr A493 yn cau dros dro i'r gogledd o Fachynlleth yn ystod mis Chwefror 2024 a fydd yn effeithio ar deithio rhwng Machynlleth ac ardal Aberdyfi/Pennal/Tywyn.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r contract adeiladu Pont ar Ddyfi Newydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Griffiths a chliciwch ar "newyddion" am y Cwestiynau Cyffredin diweddaraf dolen:A487: pont Ddyfi newydd – Griffiths Community

Mae'r wybodaeth isod yn gywir ar 8 Chwefror 2024.

Beth sy'n digwydd?

Fel rhan o Waith Gwella Pont ar Ddyfi Newydd, mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud i wella’r system draenio i ddiogelu rhes o adeiladau rhestredig Gradd 2 (Bythynnod Dyfi) rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae angen i'r gwaith hwn gael ei wneud yn gynnar ym mis Chwefror 2024.

Mae angen cau'r A493 i draffig am tua 100 metr o’r ffordd ar hyd blaen Bythynnod Dyfi ym Mhont ar Ddyfi dros gyfnod o 30 diwrnod er mwyn i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel. Bydd mynediad i gerddwyr a beiciau yn parhau o hyd. Bydd parcio a man gollwng a chasglu bysys ar gael ar ddwy ochr y rhan o’r ffordd sydd ar gau.

Bydd yr A487 Pont ar Ddyfi Newydd ar agor i draffig tra bod y ffordd gau.

Bydd y ffordd ar gau o ddydd Sadwrn 10fed Chwefror 2024. Disgwylir i'r holl waith angenrheidiol gael ei gwblhau o fewn 30 diwrnod (os yw'r tywydd yn caniatáu).

Bydd hyn yn effeithio ar fynediad rhwng Machynlleth ac ardal Pennal, Aberdyfi, Tywyn.

 

Negeseuon Allweddol i Gleifion
  • Bydd y gwaith ffordd sy'n digwydd o 10fed Chwefror yn effeithio ar eich taith o ardaloedd Tywyn, Aberdyfi a Phennal i Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi gan gynnwys i Feddygfa Iechyd Bro Ddyfi.
  • Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ymweliadau cymunedol sy’n cael eu cynnal gan ein staff cymunedol.
  • Mae gwyriad swyddogol ar waith trwy Ddolgellau. Mae Griffiths (y contractwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith) wedi cynghori y bydd parcio ar gael bob ochr i'r ffordd sy’n cau lle gallwch barcio eich car a cherdded drwy'r safle. I'r rhai sydd angen cymorth meddygol ym Machynlleth bydd gwasanaeth tacsi am ddim ar gael gan Mach Taxis rhwng 8yb a 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Dylech ganiatáu mwy o amser i deithio ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb, a chysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion yn eich llythyr apwyntiad os hoffech aildrefnu eich apwyntiad nes i'r gwaith ffordd gael ei gwblhau, neu i drafod apwyntiad dros y ffôn neu ar-lein.
  • Os ydych chi'n ymweld â pherthynas ar Ward Twymyn, siaradwch â'r ward gan ein nod yw cynnig ymweliad hyblyg sy’n gweithio o amgylch eich gofynion teithio tra bod y ffordd ar gau.
  • Mae ein tîm nyrsio ardal yn gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr yn Ne Gwynedd i gynnig gofal parhaus.
  • Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi rhannu gwybodaeth ddefnyddiol gyda'u cleifion.
  • Mae cyngor a gwybodaeth iechyd defnyddiol ar gael ar wefan GIG 111 Cymru yn 111.gig.cymru neu drwy ffonio 111.
  • Mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999.

 

 

Diolch am eich amynedd.

 

Cyhoeddwyd: 09/02/2024

Rhannu:
Cyswllt: