Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Strategaeth Greadigol Iechyd a Lles Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn datblygu Strategaeth Greadigol Iechyd a Lles Powys gyda'r nod o ymgorffori profiadau celfyddydau, creadigrwydd ac ecotherapi (e.e. garddio, crefftau awyr agored) i wasanaethau iechyd er budd pobl Powys, i gefnogi iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles.

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni wrth gynllunio’r gwasanaeth.
Rydym am ddeall barn cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, staff, gofalwyr a darparwyr gwasanaethau, i sicrhau bod strategaeth uchelgeisiol y gellir ei chyflawni yn cael ei sefydlu ar gyfer y dyfodol

Allwch chi helpu drwy rannu eich barn, eich profiadau a'ch syniadau?

Gallwch lenwi'r ffurflen yma

Bydd yr arolwg yn cau ar Dydd Gwener 23  Mehefin 2023

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat gwahanol, rhowch wybod i ni ar PTHB.CreativeArts@wales.nhs.uk

 

Cyhoeddwyd: 23/05/2023

 

Rhannu:
Cyswllt: