Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Canser yn rhannu eu straeon

Mae casgliad o straeon cleifion sy'n agor y drws ar deithiau a phrofiadau personol pobl sy'n byw gyda chanser yn y sir wedi'i greu a'i gyhoeddi fel rhan o raglen Gwella’r Daith Canser ym Mhowys.

Mae’r straeon, a ddatblygwyd yn dilyn sgyrsiau manwl a chyfweliadau gyda thrigolion Powys a gysylltodd â’r rhaglen, yn rhoi cipolwg cyfoethog ar sut olwg dydd ar daith canser, sut y mae’n teimlo, pa gymorth sydd ar waith a pha fylchau sy'n bodoli. Mae'r casgliad yn cynnwys deg stori gan bobl sydd wedi derbyn diagnosis canser ynghyd â phump gan aelodau o’r teulu sydd wedi gofalu am anwyliaid ond sydd wedi eu colli.

Daw pob stori i ben drwy restru'r themâu allweddol a nodwyd fel, cyn-ddiagnosis, diagnosis a phrognosis, cydlynu gofal, perthnasoedd a chyfathrebu, cymorth emosiynol a gofal, trafnidiaeth a theithio, llais a dewis cleifion , a hawliau a llais gofalwyr . Yn ystod y 18 mis diwethaf mae dros 40 o straeon cleifion wedi'u casglu a'u dadansoddi gan amlygu deg thema allweddol sy'n digwydd dro ar ôl tro i bobl sy'n byw gyda chanser ym Mhowys.

Mae pob stori unigol wedi'i huwchlwytho ar wefan y rhaglen ochr yn ochr ag adroddiad cynnydd manwl a ffeithlun sy'n amlinellu’r cerrig milltir allweddol a gyrhaeddwyd yn ystod cam cyntaf y rhaglen tair blynedd a ariennir gan Macmillan. Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn bartneriaid allweddol wrth gyflawni'r rhaglen.

Meddai Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:

"Mae pobl sy'n byw gyda chanser wrth wraidd ein rhaglen. Mae'r casgliad hwn o straeon cleifion wedi ein galluogi nid yn unig i glywed eu lleisiau'n glir ac yn groyw, ond i'w rhannu er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwell dealltwriaeth o daith canser trigolion Powys, eu gofalwyr di-dâl, eu teuluoedd a'r rhai sy'n bwysig iddynt.

 "Mae'r profiadau a'r mewnwelediadau yn amhrisiadwy wrth lunio sut a beth y mae angen i ni ei roi ar waith ym Mhowys i gefnogi pobl yn well unwaith y byddant yn cael diagnosis, a hoffwn diolch i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad ac wedi rhannu eu stori gyda thîm ICJ hyd yma. "

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion. 

"Rydym wedi dysgu cymaint yn barod o'r straeon hyn ond mae gennym fwy i'w wneud i wella'r daith canser i'n trigolion. Dyna pam mae'r rhaglen hon yn bodoli. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cynnig cyfle i bob preswylydd siarad drwy ei holl feddyliau, ofnau a phryderon - nid eu rhai meddygol yn unig - ar ddechrau eu taith canser, fel y gallant gael gafael ar unrhyw gymorth sydd ei angen neu ei eisiau arnynt. Ar hyn o bryd mae gennym dri phrosiect peilot ar waith drwy PAVO, Credu ac Ymddiriedolaeth Bracken sy'n cynnig cyfle i bobl sy'n cael diagnosis o ganser gael sgwrs gefnogol gan ddefnyddio offeryn asesu anghenion cyfannol y gellir ymddiried ynddo fel canllaw. Gweler ein gwefan am fwy o fanylion neu e-bostiwch ICJPowys@powys.gov.uk"

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen a'r cynnig asesiad anghenion cyfannol i'w gweld yn y crynodeb ac ar y brif dudalen we. https://www.powysrpb.org/icjpowys

Mae gwybodaeth a chymorth cynhwysfawr, gan gynnwys arweiniad a chyngor diweddaraf Macmillan ar effaith coronafeirws ar ofal canser, ar gael ar  www.macmillan.org.uk