Cleifion ym Mhowys i elwa o fodel newydd o ofal dros nos o ddechrau mis Rhagfyr.
Bydd y newidiadau dros dro yn helpu sicrhau bod mwy o gleifion mewn amgylchedd ysbyty sy'n fwy addas i'w hanghenion, yn enwedig os ydynt yn aros am becyn gofal i'w galluogi i ddychwelyd adref.
Dywedodd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd, Menywod ac Iechyd Plant Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Ar hyn o bryd mae yna bobl yn yr ysbyty sy'n ddigon iach i fynd adref ond sy'n methu gwneud hynny’n syth. Er enghraifft, efallai eu bod yn aros am newidiadau bach i'w cartref, neu i ofalwr eu helpu.
"Bydd ein Hunedau Barod i Fynd Adref ym Mronllys a Llanidloes yn cynnig amgylchedd pwrpasol a chefnogol i helpu pobl aros mor actif â phosibl. Rydym wedi dylunio'r amgylcheddau hyn fel y gallwch godi a symud o gwmpas cymaint â phosibl, ac i ymuno â gweithgareddau gwahanol naill ai ar eich pen eich hun neu mewn grwpiau.
"Mae croeso i'ch teulu a'ch ffrindiau ddod i ymweld unrhyw bryd - does dim oriau ymweld pendant. Rydych hefyd yn rhydd i fynd allan gyda'ch ymwelwyr, i mewn i'r gerddi, neu hyd yn oed allan ar gyfer taith i'r dref. "
Mae taflen newydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i bobl sy'n aros ar ein Hunedau Barod i Fynd adref a'u teuluoedd, ac mae gwybodaeth hefyd ar gael o adran benodol o wefan y bwrdd iechyd yn biap.gig.cymru/drosnos
Gofal Cywir Lle Cywir
Aeth Claire Roche ymlaen i ddweud:
Mae nifer y gwelyau ysbyty cymunedol a'u lleoliadau yn parhau heb newid ar draws y sir. Ond drwy roi ffocws cliriach i wardiau ym Mronllys a Llanidloes fel unedau 'Barod i Fynd Adref' gallwn ddarparu gofal mwy penodol i bobl sy'n barod i fynd adref ond sy'n aros am becyn gofal yn y gymuned. Gallwn helpu pobl i barhau i symud a bod yn actif, sy'n bwysig er mwyn lleihau'r risg o ddatgyflyru mewn lleoliad ysbyty.
“Yn yr un modd, gallwn sicrhau adferiad cyflymach i fwy o gleifion trwy gryfhau rôl wardiau yn Aberhonddu a'r Drenewydd ar gyfer darparu gofal adsefydlu cleifion mewnol arbenigol. Mae hyn yn adeiladu ar eu rôl bresennol fel ein canolfannau ar gyfer adsefydlu strôc.
O’r 2 Rhagfyr 2024, bydd BIAP yn darparu gofal dros nos i oedolion mewn pedwar lleoliad:
Mae hyn yn ychwanegol at unedau iechyd meddwl y sir.
Dysgu a Gwerthuso
Disgwylir i'r newidiadau dros dro fod ar waith am chwe mis, gyda rhaglen gynhwysfawr o ddysgu a gwerthuso ar waith. Ochr yn ochr â hyn, bydd y bwrdd iechyd yn gweithio gyda chymunedau ledled Powys i ddatblygu llwybr clir tuag at ddyfodol gwasanaethau ysbyty diogel a chynaliadwy i'r sir.
Bydd diweddariadau rheolaidd ar y gwaith hwn yn cael eu rhannu drwy gyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd Iechyd, a gallwch hefyd gofrestru i dderbyn diweddariadau e-bost drwy wasanaeth tanysgrifwyr y Bwrdd Iechyd.
Rhagor o wybodaeth
Gwasanaethau gofal dros nos BIAP o 2 Rhagfyr 2024:
Mae gwybodaeth am ofal dros nos a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gael o wefan y bwrdd iechyd yn https://pthb.nhs.wales/overnight ac https://biap.gig.cymru/drosnos
Cytunwyd ar y newidiadau dros dro hyn mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 10 Hydref yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â chleifion, y cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach yr haf hwn.
I ymuno â gwasanaeth tanysgrifwyr y Bwrdd Iechyd, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn biap.gig.cymru a rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y blwch ar frig yr hafan.