Mae hyder cynyddol ymysg cleifion yng Nghymru pan ddaw hi at ymgynghoriadau dros fideo, yn ôl y canfyddiadau diweddaraf a gyhoeddwyd gan TEC Cymru.
Ym Mhowys, cafodd dros 8000 o ymgynghoriadau eu cynnal dros fideo rhwng mis Mawrth 2020 a mis Gorffennaf 2021. Bellach, mae meddygon teulu, therapyddion iaith a lleferydd ac ymarferwyr iechyd meddwl yn troi at ymgynghoriadau dros fideo er mwyn gweld cleifion yn ddiogel ac i helpu’r GIG i adfer ar ôl pandemig Covid-19.
Yn ôl y canfyddiadau, mae ymgynghoriadau dros fideo yn cael eu canmol yn uchel iawn ymhlith cleifion a chlinigwyr. Dywedodd 84.7% o’r ymatebwyr fod yr ansawdd yn rhagorol, yn dda iawn, neu’n dda, a dywedodd dros 90% y byddan nhw’n defnyddio ymgynghoriadau dros fideo eto yn y dyfodol.
Meddai Adrian Osborne o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Mae cleifion yn hoffi’r ffaith eu bod yn lleihau eu risg o haint drwy aros yng nghysur eu cartrefi eu hunain. Mae hefyd yn osgoi teithiau i’r ysbyty neu feddygfa, sy’n bwysig iawn i sir wledig fel Powys. Mae cleifion yn gweld hyn yn gyfleus ac rydyn ni wrth law i gefnogi pobl sy’n ddihyder wrth ddefnyddio technoleg.”
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn awyddus i bwysleisio bod apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael o hyd. Ychwanegodd Adrian:
“Bydd yn dal yn bwysig mewn llawer o achosion i gleifion ymweld â lleoliad gofal iechyd a chael archwiliad wyneb yn wyneb.”
Meddai Gemma Johns, Arweinydd Gwerthuso ac Ymchwil TEC Cymru:
“Rydyn ni wedi gallu llwyddo i dreiddio’n ddwfn i brofiadau cleifion a chlinigwyr a nodi sut mae’r manteision yn drech na’r heriau’n amlwg. Rydyn ni wedi gallu dangos pa mor dda mae ymgynghoriadau dros fideo yn gweithio i’n cleifion a’n clinigwyr, ac yn cynnig cyfle i herio llawer o ragdybiaethau o ran allgáu digidol yng Nghymru. Mae canfyddiadau’r adroddiad yma’n ceisio cefnogi Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru ar benderfyniadau yn y dyfodol a ffyrdd o weithio yn GIG Cymru, ac ar wneud defnydd cynaliadwy o ymgynghoriadau dros fideo yn y dyfodol.”
Mae’r ffordd mae’r cyhoedd yn defnyddio gwasanaethau’r GIG wedi newid, ac fel rhan o’i hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi mae Llywodraeth Cymru yn annog y cyhoedd i ymgyfarwyddo â’r amrywiaeth o opsiynau a gwasanaethau GIG sydd ar gael.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflymu’r broses o gyflwyno gwasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru i helpu'r GIG i fynd i'r afael â Covid-19, bydd y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ar raddfa eang fel y gall cleifion gysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol – gan gynnwys eich meddyg teulu lleol, deintydd, fferyllydd neu optegydd – dros alwad fideo neu ffôn.
Mae ymgynghoriadau dros fideo yn gyflym ac yn hawdd i'w trefnu drwy eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur personol presennol ac nid oes angen gosodiadau na lawrlwythiadau. Mae’r gwasanaeth yn ddiogel a bydd yn eich helpu i weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn ffordd fwy cyfleus, gan arbed amser i chi a’ch cadw’n ddiogel. Gallwch wirio gyda’ch gwasanaeth lleol i weld a ydyn nhw’n cynnig ymgynghoriadau dros fideo neu dros y ffôn a sut i’w defnyddio.