Neidio i'r prif gynnwy

Clicio, gwella, bondio: Yr offeryn GIG digidol a helpodd fam i gysylltu â'i baban

Mae delwedd o destun teuluol yn darllen Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamolaeth 2025 Bethany Paines-Chumbley gyda

Mae mam i ddau o blant yn credu bod gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein GIG Cymru wedi ei helpu i ailddarganfod llawenydd mamolaeth ar ôl misoedd o bryder.

Trodd Bethan Paines-Chumbley, sy'n 30 oed, at SilverCloud® Cymru am gymorth ar ôl genedigaeth ei hail blentyn.

Mae'r gwasanaeth ar-lein am ddim yn cynnig ystod o gyrsiau hunangymorth dan arweiniad ar gyfer rheoli amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Bethan ei bod yn teimlo gwelliant o fewn wythnosau ar ôl dechrau ar ei rhaglen ac y byddai'n argymell y platfform i rieni newydd a darpar rieni eraill.

"O'r blaen, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i'n mwynhau mamolaeth, ond nawr rwy'n teimlo fy mod i'n gallu mwynhau pob eiliad," meddai. 

"Mae wedi ei gwneud hi'n llawer haws siarad am sut rydw i'n teimlo - ac unwaith y byddwch yn agor i fyny, mae'n dod cymaint yn llai llethol."

Dechreuodd Bethan, rheolwr rhaglen sy'n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru, brofi poenau yn yr abdomen oherwydd cerrig bustl heb eu diagnosio yn dilyn genedigaeth ei mab ym mis Tachwedd 2023.

Trodd y boen gorfforol yn fuan i drallod emosiynol, gyda gorbryder yn ei gwneud hi'n fwyfwy anodd iddi ofalu am ei newydd-anedig, Idris, sydd bellach yn 18 mis oed.

Meddai Bethan:  "Roeddwn i'n teimlo fel fy mod i'n cael trafferth bondio gyda fy mhlentyn oherwydd roeddwn i bob amser mewn poen, a oedd yn ei dro yn fy ngadael yn teimlo'n bryderus trwy'r amser.

"Fe gyrhaeddodd y pwynt lle nad oeddwn yn gallu mynd allan ar fy mhen fy hun gydag ef, a byddwn i'n osgoi ei roi i'r gwely yn y nos - roedd yn rhaid i fy ngŵr wneud hynny.

"Roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i'n gallu gofalu am ein baban yn iawn, ac nad oeddwn i'n fam ddigon da."

Gwelodd Bethan nyrs iechyd meddwl yn ei meddygfa leol, a’i hatgyfeiriodd am sesiynau cwnsela rhithwir gyda’r gwasanaeth cymorth, Canopi, a’i chyfeirio at SilverCloud®.

"Roedd hi'n wych," mae Bethan yn cofio. "Roedd hi'n gwrando ac yn fy neall mewn gwirionedd. Dangosodd hi i mi yn y fan a'r lle pa raglenni oedd ar gael. Roedd un sy'n benodol i iechyd meddwl amenedigol, felly dewisais hynny. 

"Roedd yn golygu, er bod gen i atgyfeiriad am ymyrraeth arall, y gallwn wneud rhywbeth yn y cyfamser i helpu fy hun, yn hytrach nag aros, ac o bosibl gwaethygu."

Mae rhaglenni SilverCloud yn hygyrch 24/7 ac yn cael eu cwblhau ar ffôn, gliniadur neu dabled gyda chysylltiad rhyngrwyd. 

Dywed Bethan fod hyblygrwydd platfform ar-lein yn cyd-fynd yn hawdd â gofynion rhianta. 

Meddai Bethan:  "Byddwn i'n ceisio mewngofnodi bob dydd a gwneud ychydig bach. Hyd yn oed os oedd fy mab yn cysgu, gallwn eistedd yno a'i ddal wrth i mi weithio trwy ychydig o SilverCloud ar fy ffôn.

"Un offeryn oedd wedi taro deuddeg gyda mi oedd y 'goeden bryder', a helpodd fi i ddeall o ble roedd fy mhryder yn deillio, ac yna'i resymoli.

"Roeddwn i'n hoffi'r ffaith bod yna straeon gan bobl eraill a oedd wedi mynd trwy brofiadau tebyg - roedd yn fy helpu i deimlo fel nad oeddwn ar fy mhen fy hun yn fy nhrafferthion.

"Mewn amser, dysgais i ddeall sut roedd fy meddwl yn gweithio.  Roeddwn i'n gallu adnabod pan oedd y meddyliau pryderus hynny'n dechrau ymlusgo i mewn, a dysgais i beidio â bwydo i mewn iddynt."

Yn y pen draw, gyda chefnogaeth gyfunol SilverCloud® a therapi cwnsela rhithwir dilynol, adennillodd Bethan ei hyder ac roedd yn gallu mwynhau rhianta eto.

"Mae wedi cael effaith gadarnhaol iawn," meddai Bethan. 

"Roeddwn i'n poeni drwy'r amser nad oedd gen i'r bond hwnnw gyda fy mhlentyn, ond pan edrychaf yn ôl rwy'n sylweddoli bod y bond yno drwy'r amser - roeddwn i jyst yn bryderus ac yn sâl. 

"Nawr gallaf fwynhau'r holl eiliadau bach hynny sy'n gwneud bod yn fam gymaint o lawenydd."

Ychwanegodd Jennavieve West, cefnogwr ar-lein gyda Gwasanaeth ThYG Ar-lein GIG Cymru: "Mae'n galonogol clywed bod SilverCloud wedi gweithio mor dda i B. Rydym yn dymuno'r gorau iddi hi a'i theulu ar gyfer y dyfodol. 

"Gall fod yn hollol normal teimlo'n straen, yn bryderus neu'n isel yn y cyfnod amenedigol, ond nid oes rhaid i gael y cymorth lles sydd ei angen arnoch olygu cadw at apwyntiadau neu fynychu clinigau. 

"Mae help yno pryd a ble mae ei angen arnoch chi - ac efallai mai dyna yw'r 10 munud sbâr y gallwch chi fachu rhwng porthiant, ac yng nghysur eich cartref eich hun."

Mae SilverCloud® Cymru ar gael i unrhyw un sy'n 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru, heb atgyfeiriad meddygon teulu. I gofrestru, ewch i nhswales.silvercloudhealth.com/signup

 

Cyhoeddwyd: 06/05/2025