Neidio i'r prif gynnwy

Clinig Brechu COVID Dos Cyntaf Y Trallwng 4 Medi

Oherwydd achosion cynyddol o COVID a llai o bobl yn dod am y brechlyn COVID yn y Trallwng, rydym yn cynnal sesiwn frechu galw heibio yn y Trallwng ddydd Sadwrn 4 Medi yn Neuadd Sgowtiaid Cowshacc ym maes parcio Aberriw.

Bydd brechiad ar gael i bawb oed 16+, rhwng 11yb a 4yp ac nid oes angen apwyntiad.

 

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd
  • ydych yn teimlo'n sâl
  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan: https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

Rhannu:
Cyswllt: