Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw neu RNID (Gweithredu ar Golled Clyw gynt) yw’r elusen fwyaf sy’n ymwneud â cholled clyw yn y Deyrnas Unedig, sydd, mewn amgylchiadau arferol, yn gweithredu 15 o glinigau cynnal a chadw a rhoi gwybodaeth am declynnau clyw mewn lleoliadau cymunedol ledled Powys. Maent yn awr wedi addasu’u gwasanaeth arferol i lansio gwasanaeth cymorth â phellter ar gyfer defnyddwyr teclynnau clyw’r GIG, gan gyflenwi gwasanaeth cynnal a chadw hanfodol ar gyfer teclynnau clyw i gadw cleientiaid a gwirfoddolwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig.
Bydd y gwasanaeth yn fodel galw a gollwng, gyda theclynnau clyw’n cael eu gadael gydag aelod o’r tîm y tu allan i’r lleoliad, ac wedyn yn cael eu trwsio y tu mewn i’r lleoliad. Gofynnir wedyn i bobl aros yn eu cerbydau neu ddychwelyd ar adeg benodedig.
Bydd y gwasanaeth a addaswyd yn dechrau yn Llandrindod ar y 14eg o Ragfyr, ac ar ôl hynny bob 2ail ddydd Llun o’r mis yn Rock Spa o 10yb-1yp. Caiff gwasanaethau ychwanegol eu cynllunio ar gyfer Aberhonddu a’r Drenewydd – cyhoeddir mwy o wybodaeth pan gaiff y lleoliadau hyn eu cadarnhau.
Bydd gwasanaeth RNID, a ariannir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw hanfodol am ddim i ddefnyddwyr teclynnau clyw’r GIG megis glanhau ac aildiwbio mowldiau clust. Mae’r wybodaeth a’r cymorth ychwanegol hefyd ar gael drwy’r gwasanaeth o bell neu drwy wasanaeth post Awdioleg Powys, yn cynnwys batris newydd.
I gadw staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr teclynnau clyw’r GIG yn ddiogel, fe gyflwynodd yr elusen newidiadau i sesiynau cymorth:
Dywedodd Rachael Beech, cydgysylltydd y gwasanaeth: “Mae teclynnau clyw’n ddull hanfodol o gyfathrebu i lawer o bobl ym Mhowys sy’n fyddar, sydd â cholled clyw neu dinitws. Mae’n rhaid i declynnau clyw gael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd i rwystro cwyr rhag cronni ac i sicrhau y gall defnyddwyr y teclynnau clyw gael y budd llawn. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar adeg pan fo llawer o bobl hŷn yn teimlo’n ynysig ac mae arnynt angen cadw mewn cysylltiad â’u cyfeillion a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth wedi’i asesu ar gyfer risg yn drylwyr, ac mae staff agwirfoddolwyr yn gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol llawn drwy’r adeg.”
Yn ychwanegol at y sesiwn newydd â phellter, mae RNID yn parhau i gynorthwyo defnyddwyr teclynnau clyw’r GIG ar y ffôn a thrwy e-bost. I gael mwy o wybodaeth:
Neu cysylltwch â Llinell Wybodaeth RNID: