Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref a Ffliw - wythnos yn dechrau 27 Mawrth

Mae brechlyn atgyfnerthu'r hydref COVID 19 ar gael i gleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

O 9 Ionawr 2023 gall oedolion cymwys hefyd alw heibio ein canolfannau brechu i gael brechlyn ffliw. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar ein tudalen brechlyn ffliw. Mae llawer o feddygfeydd teulu ym Mhowys yn dal i gynnig brechlynnau ffliw i'w cleifion cymwys, ac fe allai fod yn opsiwn haws i'r rhai sy'n methu teithio. Gwiriwch gyda'ch practis lleol ar gyfer argaeledd, gan ddefnyddio eu gwefan neu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf. 

Gallwn hefyd gynnig brechlyn ffliw i blant yn ein prif glinigau brechu ar sail APWYNTIAD YN UNIG. Cysylltwch â ni ar 01874 442510 neu powys.covidvacc@wales.nhs.uk i ARCHEBU brechlyn ffliw ar gyfer eich plentyn yn ein prif glinigau brechu

 

Ysbyty Bronllys

Dydd Llun 27 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Dydd Mawrth 28 Mawrth: 11.30yb - 2.15yp

Dydd Mercher 29 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Dydd Iau 30 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Dydd Gwener 31 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Canolfan Ddydd Park Street, Y Drenewydd

Dydd Llun 27 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Dydd Mawrth 28 Mawrth: 11.30yb - 2.15yp

Dydd Mercher 29 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Dydd Iau 30 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

Dydd Gwener 31 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp

 

Gwybodaeth bellach:

  • Mae sesiynau galw heibio yn cael eu cynnig ochr yn ochr â’n clinigau apwyntiad ac maent yn dibynnu ar argaeledd. Diolch i chi am eich amynedd, a rhowch flaenoriaeth i bobl sydd ag apwyntiad sydd wedi'i drefnu.
  • Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer brechlyn atgyfnerthu'r hydref a brechlyn ffliw y mae sesiynau galw heibio ar gael. Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer dosau brechlyn eraill. Mae hyn oherwydd eu bod yn defnyddio math gwahanol o frechlyn.
  • Peidiwch â mynychu am frechlyn COVID-19 os ydych wedi cael COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.
  • O 9 Ionawr gellir trefnu apwyntiadau brechlyn rhag y ffliw ar gyfer plentyn yn ein canolfannau brechu torfol - ffoniwch 01874 442510 neu e-bostiwch powys.covidvacc@wales.nhs.uk.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlyn atgyfnerthu'r hydref yma.

 

 

Rhyddhawyd 23/03/2023

Rhannu:
Cyswllt: