Mae brechlyn atgyfnerthu'r hydref COVID 19 ar gael i gleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.
O 9 Ionawr 2023 gall oedolion cymwys hefyd alw heibio ein canolfannau brechu i gael brechlyn ffliw. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar ein tudalen brechlyn ffliw. Mae llawer o feddygfeydd teulu ym Mhowys yn dal i gynnig brechlynnau ffliw i'w cleifion cymwys, ac fe allai fod yn opsiwn haws i'r rhai sy'n methu teithio. Gwiriwch gyda'ch practis lleol ar gyfer argaeledd, gan ddefnyddio eu gwefan neu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf.
Gallwn hefyd gynnig brechlyn ffliw i blant yn ein prif glinigau brechu ar sail APWYNTIAD YN UNIG. Cysylltwch â ni ar 01874 442510 neu powys.covidvacc@wales.nhs.uk i ARCHEBU brechlyn ffliw ar gyfer eich plentyn yn ein prif glinigau brechu.
Ysbyty Bronllys
Dydd Llun 20 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Dydd Mawrth 21 Mawrth: 11.30yb - 2.15yp
Dydd Mercher 22 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Dydd Iau 23 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Dydd Gwener 24 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Canolfan Ddydd Park Street, Y Drenewydd
Dydd Mawrth 21 Mawrth: 11.30yb - 2.15yp
Dydd Mercher 22 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Dydd Iau 23 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Dydd Gwener 24 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Dydd Sadwrn 25 Mawrth: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.30yp
Gwybodaeth bellach:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlyn atgyfnerthu'r hydref yma.
Rhyddhawyd 16/03/2023