Neidio i'r prif gynnwy

Comisiwn Bevan yn ceisio barn y cyhoedd ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Trafodwch ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Beth sydd yn gweithio'n dda?

Beth sydd angen newid?

Sut allwn wella?

Ymunwch â ni yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 3 Hydref er mwyn cael rhannu eich barn.

Darparir y digwyddiad gan Gomisiwn Bevan, sef prif felin drafod annibynnol iechyd a gofal Cymru. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn casglu eich barn ynglŷn â sut allwn wella a chynnal y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

Bydd Comisiwn Bevan yn defnyddio eich safbwyntiau a syniadau o’r trafodaethau hyn er mwyn cynhyrchu adroddiad cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag adroddiad lleol ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gan argymell newidiadau. Mae Comisiwn Bevan yn llais annibynnol y gellir ymddiried ynddo yng Nghymru, a bydd yr adroddiad hwn yn dylanwadu ar sut gaiff penderfyniadau eu gwneud.

Mae croeso i bawb yn y digwyddiad anffurfiol, rhyngweithiol hwn, gan gynnwys y rheiny sydd yn gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd lluniaeth ar gael.

 

I gadw eich lle yn y digwyddiad hwn, cliciwch y ddolen ganlynol: Conversation with the Public: Brecon Tickets, Tue 3 Oct 2023 at 10:30 | Eventbrite

Fel arall, ffoniwch 01792 604630, neu e-bostiwch bevan-commission@swansea.ac.uk.

 

Os na allwch ymuno â’r digwyddiad hwn, gallwch ymuno â’n trafodaethau cenedlaethol ar-lein a gynhelir ar 07/11/2023 drwy ffonio 01792 604630, e-bostio bevan-commission@swansea.ac.uk, neu ymweld Conversation with the Public: National Online Conversation Tickets, Tue 7 Nov 2023 at 18:00 | Eventbrite

 

Cyhoeddwyd: 14/09/2023

Rhannu:
Cyswllt: