ellach gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ym Mhowys ddefnyddio Convo (SignLive gynt) i gysylltu â'u meddyg teulu, deintydd, optegydd neu fferyllfa GIG lleol.
Mae Convo yn ap am ddim sy'n eich cysylltu chi â chyfieithydd BSL. Bydd y cyfieithydd yn ffonio'r gwasanaeth iechyd ar eich rhan ac yn eich helpu chi siarad â nhw mewn amser real.
Mae'r gwasanaeth eisoes ar gael yn ysbytai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nawr, mae'n gweithio gyda dros 80 o feddygfeydd, deintyddion y GIG, optegwyr a fferyllfeydd ledled Powys. Mae hyn yn golygu mai Powys yw'r ardal orau yng Nghymru—ac un o'r goreuon yn y DU—ar gyfer cysylltu â darparwyr iechyd trwy BSL.
Dywedodd Adam Pearce, sy'n gweithio ar wasanaethau cydraddoldeb a Chymraeg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Mae defnyddwyr BSL yn aml yn ei chael hi’n anodd defnyddio gwasanaethau ffôn. Dydy ffôn yn dda i ddim os na allwch chi glywed. Datrysiad syml i’r broblem hon yw Convo. Bellach gall defnyddwyr BSL gysylltu â’r ysbyty, eu meddyg, optegydd, deintydd neu fferyllfa lleol yn yr un modd â chleifion sy’n clywed. Hyd y gwn i, ni yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru os nad y DU gyfan sy’n cynnig gwasanaeth fel Cyfnewid BSL fel hwn mor eang.”
Ychwanegodd Debra Wood-Lawson, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Mae’r newyddion hwn yn cyd-daro â lansiad canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer cyfathrebu hygyrch yn GIG Cymru. Mae Powys yn falch o arwain y ffordd o ran gwneud gofal iechyd yn haws i bawb ei gyrchu.”
Mae Convo am ddim i holl drigolion Powys:
Lawrlwythwch yr ap i’ch ffôn clyfar neu lechen.
Dewiswch y gwasanaeth o'r Cyfeiriadur Cymunedol.
Gall y cyfieithydd:
Gadael negeseuon i chi.
Trefnu galwadau yn ôl gan ddefnyddio eich rhif estyniad Convo.
Ymuno â'ch apwyntiadau i'ch helpu cyfathrebu'n fyw