Neidio i'r prif gynnwy

Crefftwyr Powys yn dathlu GIG75

Mae crefftwyr o ogledd, canolbarth a de Powys wedi bod yn dathlu Pen-blwydd y GIG yn 75 oed trwy wau a chrosio 'hetiau blwch post'.

Mae'r grwpiau wedi bod yn cymryd rhan yn y dathliadau i nodi'r garreg filltir ar gyfer y gwasanaeth a grëwyd gan AS Cymru, Aneurin Bevan.

Creodd Knit and Natter Y Drenewydd, Woolly Wednesdays Llanfair-ym-Muallt a Grŵp Knit and Natter y Gaer (Aberhonddu) eu dyluniadau gwych ac roedd pob un yn unigryw.

Cafodd yr hetiau eu dadorchuddio yn ystod yr wythnosau diwethaf gan Brif Weithredwr Dros Dro’r bwrdd iechyd, Hayley Thomas, y Cadeirydd Carl Cooper a'r Is-gadeirydd Kirsty Williams.

Dywedodd Hayley Thomas: "Rydyn ni wrth ein boddau gyda'r darnau o gelf mae'r grwpiau crefftio wedi'u creu, maen nhw'n ddarnau mor glyfar, dyfeisgar a hardd ac roedden ni’n falch iawn i'w dadorchuddio i'r cyhoedd dros yr wythnosau diwethaf."

Ychwanegodd Ms Thomas: "Fel bwrdd iechyd rydym yn cydnabod gwerth grwpiau crefftio lleol gan eu bod yn cynnig cyfeillgarwch, amgylchedd ymlaciol, yn helpu datblygu sgiliau ac yn hwb gwirioneddol i les pobl."

Os oes gennych ddiddordeb ymuno â'r grwpiau crefftio hyn, gellir cysylltu â Knit and Natter Y Drenewydd trwy eu tudalen Facebook, mae Woolly Wednesday Llanfair-ym-Muallt yn cwrdd yng Ngwesty'r Greyhound bob nos Fercher am 7yh tra bod Grŵp Knit and Natter y Gaer yn cwrdd yn y Gaer bob dydd Iau am 11yb.

Pan gafodd ei sefydlu yn 1948 gan AS Cymru, Aneurin Bevan, y GIG oedd y system iechyd gyffredinol gyntaf i fod ar gael i bawb, am ddim ar adeg ei gyflwyno. Mae'r egwyddorion hynny'n parhau i fod mor berthnasol, ac yn cael eu gwerthfawrogi, heddiw ag y gwnaethon nhw yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ymunodd staff y bwrdd iechyd â chrefftwyr o Knit and Natter Y Drenewydd ar gyfer y dadorchuddio.

Ymunodd yr Is-gadeirydd Kirsty Williams (3ydd o'r dde) â staff y bwrdd iechyd a grŵp Woolly Wednesdays Llanfair-ym-Muallt ar gyfer y dadorchuddio.

Ymunodd Cadeirydd y bwrdd iechyd, Carl Cooper (dde) â staff y bwrdd iechyd a Sian Pratten o Knit and Natter Y Gaer ar gyfer y dadorchuddio.

 

Cyhoeddwyd: 12/07/2023

 

 

Rhannu:
Cyswllt: