Neidio i'r prif gynnwy

Crughywel a Rhaeadr yn croesawu Unedau Profi Symudol o 1 Mawrth

Bydd unedau profi symudol yn symud ar draws Powys i ddau leoliad newydd, yng Nghrughywel a Rhaeadr o ddydd Llun 1 Mawrth.

Bydd y ddwy uned yn symud i Gwrt Y Gollen, Crughywel, a Chlwb Rygbi Rhaeadr ar gyfer trigolion Dyffryn Gwy.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae gweithleoedd wedi cyfrannu at gynnydd mewn achosion o COVID-19 lle maent wedi cynnig cyfleoedd i’r haint ledaenu, yn enwedig mewn lleoedd lle mae pobl yn gweithio’n agos at ei gilydd.

Mae amrywiad newydd sy’n symud yn haws rhwng pobl wedi cyfrannu at y cynnydd diweddar mewn achosion positif. Mae’r timau profi’n annog pobl i fynd i’w uned brofi agosaf os ydynt yn teimlo’n sal gydag unrhyw un o’r arwyddion neu symptomau, sef tymheredd uchel, peswch newydd parhaus, a cholli neu newid yn eich synnwyr o arogl neu flas.

Rhaid cael apwyntiad i fynd i’r safle profi symudol, ac maent yn cynnig gwasanaeth gyrru-i-mewn.

Mae dwy ganolfan brofi genedlaethol arall ar gael i breswylwyr, yn y Drenewydd ac Aberhonddu lle gallwch gerdded, gyrru neu feicio am brawf, ac uned brofi leol arall yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer apwyntiad gyrru drwodd.

Mae lleoli'r unedau teithiol yn rhan o raglen dreigl o brofion symudol i sicrhau bod gan breswylwyr fynediad i brofion COVID-19 mor agos i'w cartrefi â phosibl.  Gall preswylwyr sy'n teimlo symptomau ond sy'n methu â mynd i uned brofi symudol ofyn am Becyn Profi Cartref, a ddanfonir i'ch cartref.

Bydd y cyfleuster profi symudol yn parhau i symud i leoliadau eraill ledled Powys i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd uned brofi pan fo angen.

Mae pob uned brofi ar gael drwy apwyntiad yn unig ar gyfer pobl â symptomau,  sef: peswch parhaus newydd, tymheredd uchel (twymyn), colli neu newid i arogl neu flas.

Nawr, gydag amrywiolyn newydd o'r feirws sy'n gallu lledaenu'n haws yn cylchredeg ym mhobman yng Nghymru, mae'n fwy hanfodol nag erioed, os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau’r coronafeirws, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith yn gyntaf, ac archebu prawf cyn gynted â phosibl.

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • aros gartref
  • peidio â chwrdd â neb ond y bobl rydych chi'n byw gyda nhw
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • arhoswch 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

Gellir archebu apwyntiadau ym Crug Hywel, Rhaeadr Gwy, y Drenewydd ac Aberhonddu drwy borth archebu cenedlaethol Llywodraeth y DU, naill ai ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test, dros y ffôn ar 119, neu 18001 119 ar gyfer pobl ag anawsterau clyw neu leferydd.  Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.

Gall preswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau wneud apwyntiad yn yr uned brofi leol drwy ffonio 01874 612228 neu ar-lein yn powys.testing@wales.nhs.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn

https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/ 

Rhannu:
Cyswllt: