Mae aelod o dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi siarad am ei balchder ar ôl cael ei dewis fel Nyrs Anabledd Dysgu’r Flwyddyn gyntaf erioed yng Ngwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2024.
Mae Catherine Davies wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad a'i hymdrech at sicrhau bod gofal iechyd yn gweithio'n well i bobl ag anableddau dysgu ledled y sir.
Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar sut y gallai fod angen cymorth penodol ar bobl ag anableddau dysgu ac arwain y gwaith i sicrhau bod tua 90% o'r grŵp hwn yn derbyn gwiriad iechyd anabledd dysgu blynyddol. Y ganran hon yw'r uchaf o bell ffordd yng Nghymru gyfan.
"Rydw i wedi hyfforddi, byw a gweithio bron iawn fy mywyd cyfan gyda Phowys," meddai'r Nyrs Cyswllt Catherine sy'n hanu o Abercraf yng Nghwm Tawe ac sydd wedi'i lleoli yn ysbyty Bronllys, "ac mae'n anhygoel cael y wobr. Ond nid fi yn unig ydyw, mae wedi bod yn ymdrech tîm ac mae hyn i gyd yn ymwneud â gwella bywydau'r unigolion rydym yn eu cefnogi."
"Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl ag anableddau dysgu lai o ddisgwyliad oes ledled y DU, yn aml yn marw'n gynamserol o achosion y gellir eu hosgoi ac y gellir eu hatal. Mae ein gwaith yn ymwneud â lleihau'r anghydraddoldebau iechyd hyn," ychwanegodd.
Roedd rhan o'r broses wobrwyo yn cynnwys cyfweliad panel gyda beirniaid Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Daeth hyn ar adeg anodd i Catherine y bu farw ei Mam yn yr wythnos cyn y cyfweliad. "Doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i'n gallu ei wneud ond wedyn, fe wnaeth fy nghydweithwyr fy annog i, ac roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid i mi ei wneud dros Mam, gan ei bod hi bob amser wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi. Pan oeddwn wrth ei gwely yn yr ysbyty tua'r diwedd, roedd hi'n dweud wrthyf y dylwn i fod yn bwrw ymlaen â'm gwaith yn lle.”
Ymunodd Catherine â nyrsys o bob rhan o Gymru yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd. Rhannodd ei chydweithwyr a'i ffrindiau eu llawenydd ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddisgrifio Catherine fel "ysbrydoliaeth" a'r anrhydedd fel un "haeddiannol iawn".
Hayley Tarrant, Pennaeth Gwasanaethau Anabledd Dysgu gyda'r bwrdd iechyd, rheolwr llinell Catherine, wnaeth ei henwebu. "Mae Catherine bob amser yn mynd y tu hwnt i'r gofynion yn ei rôl. Mae'r wobr hon yn anhygoel ac mae'n anrhydedd i ni gael rhywun fel Catherine yn ein tîm."
Ynghyd â Hayley, roedd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd, Iechyd Menywod ac Iechyd Teuluol, hefyd yn gallu ymuno yn y dathliadau: "Rwy'n hynod falch o gyflawniad Catherine, sy’n haeddiannol iawn. Mae Catherine yn dangos cymaint o angerdd dros Nyrsio Anabledd Dysgu ac mae ei ffocws bob amser ar anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth ym Mhowys."
Mae Catherine hefyd wedi estyn allan i ddarparu hyfforddiant i gydweithwyr gofal cymdeithasol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ochr yn ochr â chyflwyno sesiynau i nyrsys practis a staff iechyd sydd newydd gymhwyso ar y rhaglen Diwtoriaeth. Hyd yma mae Catherine wedi hyfforddi dros 500 o hyrwyddwyr anabledd dysgu ac mae ganddi lawer o sesiynau ar y gweill yn y dyfodol.
Catherine yw enillydd cyntaf y wobr arbennig hon gan fod y categori blaenorol yn cynnwys Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu mewn un categori. Ar gyfer 2024 roedd gwobrau ar wahân ar gyfer pob arbenigedd.
Nid yw'n ddieithr i lwyddiant chwaith, gan fod Tîm Cyswllt Anabledd Dysgu’r bwrdd iechyd yn enillydd haeddiannol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Staff y bwrdd iechyd y llynedd.
Llun: Catherine (chwith) gyda'i rheolwr llinell Hayley Tarrant yn y seremoni.
Cyhoeddwyd : 11/12/24