Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – 22 Hydref 2020

Annwyl Cydweithiwr

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – 22 Hydref 2020

Mae'n bleser gennyf eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mewn ymateb i bandemig COVID-19 a’r canllawiau a chyfyngiadau cysylltiedig, yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2020, penderfynodd y Bwrdd gynnal cyfarfodydd yn y dyfodol trwy ddulliau electronig. Gwnaeth y Bwrdd y penderfyniad hwn er budd gorau amddiffyn y cyhoedd, staff ac aelodau'r bwrdd.

Bydd ein CCB yn cael ei gynnal rhwng 2.00yp a 3.00yp ar 22 Hydref 2020 trwy Dimau Microsoft rhithwir. Gallwch ymuno a chymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein trwy'r ddolen ganlynol: -
https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/calendr-o-cyfarfodydd-y-bwrdd/cyfarfod-y-bwrdd-ar-22-hydref-2020-cyfarfod-cyffredinol-blynyddol  

Bydd yn rhoi cyfle i rannu rhai o lwyddiannau a heriau'r flwyddyn a fu, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn bwysig, bydd yn gyfle i ni glywed gennych am eich dyheadau ar gyfer dyfodol iechyd a lles ym Mhowys.

Bydd y CCB yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan Aelodau'r Bwrdd. Bydd gwybodaeth weledol yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog gyda'r opsiwn ar gyfer isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.

Bydd copïau electronig o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2019/20 a Datganiad Ansawdd Blynyddol 2019/20 ar gael cyn y cyfarfod ar https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/calendr-o-cyfarfodydd-y-bwrdd/cyfarfod-y-bwrdd-ar-22-hydref-2020-cyfarfod-cyffredinol-blynyddol/

Bydd sesiwn holi ac ateb rhithwir yn dilyn y cyflwyniadau, lle bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Fe'ch gwahoddir hefyd i ofyn cwestiynau cyn y cyfarfod, trwy eu hanfon at powys.geninfo@wales.nhs.uk 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 22 Hydref.


Yn gywir
                                        
Yr Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
 

Rhannu:
Cyswllt: