Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae'n bleser gennym eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. 

Bydd ein CCB yn cael ei gynnal rhwng 2.00yp a 3.30yp ar 27 Gorffennaf 2022 yn rhithwir trwy Microsoft Teams.  Gallwch ymuno a chymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein trwy'r ddolen ganlynol: https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/calendr-o-cyfarfodydd-y-bwrdd/cyfarfod-y-bwrdd-ar-27-gorffennaf-2022-cyfarfod-cyffredinol-blynyddol/.  

Bydd y cyfarfod yn gyfle i rannu rhai o lwyddiannau a heriau'r flwyddyn ddiwethaf, a'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd hefyd yn gyfle pwysig inni glywed gennych am eich dyheadau ar gyfer dyfodol iechyd a lles ym Mhowys.  

Bydd y CCB yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan Aelodau'r Bwrdd. Bydd gwybodaeth weledol yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog gyda'r opsiwn i gael isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.  

Bydd copïau electronig o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2021/22 a Chynllun Blynyddol 2022/23 ar gael cyn y cyfarfod ar https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/calendr-o-cyfarfodydd-y-bwrdd/cyfarfod-y-bwrdd-ar-27-gorffennaf-2022-cyfarfod-cyffredinol-blynyddol/.  

Bydd sesiwn holi ac ateb rhithwir yn dilyn y cyflwyniadau, lle bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Fe'ch gwahoddir hefyd i ofyn cwestiynau cyn y cyfarfod, trwy eu hanfon at powys.geninfo@wales.nhs.uk.   

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 27 Gorffennaf. 

Rhannu:
Cyswllt: