Mae Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cyhoeddi penodiad Mererid Bowley fel ein Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd newydd.
Dywedodd Carol: "Rydw i’n falch iawn o groesawu Mererid i'n tîm Gweithredol ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.
"Rydyn ni’n wynebu her iechyd cyhoeddus newydd wrth i ni weithio drwy ein siwrne o adfer ac adnewyddu ar ôl pandemig COVID-19 a chanolbwyntio ar gyflawni'r blaenoriaethau strategol a nodwyd yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2022-25. Rydyn ni’n gwneud hyn yng nghyd-destun heriau economaidd a chymdeithasol acíwt sydd wedi, a bydd yn effeithio ymhellach ar iechyd ein poblogaeth”
Mae Mererid, sy'n cael ei adnabod hefyd fel Mezz, yn ymuno â'r bwrdd iechyd ar gyfnod secondiad am 12 mis o Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd yn ei swydd erbyn mis Gorffennaf. Yn fwyaf diweddar, bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac yn Gyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr un bwrdd iechyd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ionawr 2021.
Dywedodd Mezz: “Rydw i’n gyffrous iawn i ymuno â’r tîm ym Mhowys ac yn edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr newydd.
“Rydw i’n angerddol dros fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, gan sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau yn y blynyddoedd cynnar, a’r pwysigrwydd o imiwneiddio ar y gwaith o ddiogelu iechyd y boblogaeth.
"Tra gyda thîm Aneurin Bevan, gweithiais gyda phartneriaid ar draws y system i sefydlu'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu a'r rhaglen brechu torfol. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm a phartneriaid rhagorol yma ym Mhowys hefyd, sydd wedi gwneud gwaith mor wych i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth ymhellach a lleihau anghydraddoldebau iechyd."
Mae Mezz wedi gweithio ym maes iechyd y cyhoedd ers bron i 24 mlynedd, gan ddechrau gyda’r cyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Glan Hafren ac Awdurdod Iechyd Gwent fel Arbenigwr Hybu Iechyd, cyn symud i Iechyd Cyhoeddus Cymru a thîm iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Cyhoeddwyd: 17/05/2022