Mae rheolwr datblygu Cymru ar gyfer elusen lles arloesol wedi siarad yn agored am ei anawsterau iechyd meddwl ei hun yng nghanol menter gan GIG Cymru sy'n annog dynion i geisio cymorth.
Roedd Robert, o Gymdeithas Siediau Dynion y DU, yn wynebu gorbryder a hwyliau isel yn sgil ysgariad.
Cafodd gefnogaeth drwy’r platfform ar-lein SilverCloud Wales sy’n cynnig ystod o raglenni hunangymorth dan arweiniad ar gyfer materion iechyd meddwl cyffredin.
Dywedodd Robert, a ofynnodd am i’w gyfenw gael ei atal: “Mae pobl yn rheoli iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd.
“I rai, meddyginiaeth ydyw, mae eraill eisiau trafod pethau gyda chwnselydd, ac - i rai pobl - mae gweithio trwy eu problemau ar-lein gyda rhywfaint o anhysbysrwydd yn gweithio.
“Dw i’n meddwl bod SilverCloud yn opsiwn gwych i ddynion sydd, am ba reswm bynnag, ddim eisiau gweld meddyg teulu neu sy’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad am eu hemosiynau. Byddwn i’n bendant yn ei argymell.”
Mae Robert, o Gaerdydd, wedi bod yn gweithio gyda Siediau Dynion ers dros 15 mlynedd.
Mae'r elusen yn cefnogi grwpiau lleol i sefydlu gweithdai cymunedol fel mannau diogel i ddynion gysylltu a chymdeithasu.
Dywedodd Robert, 50: “Roeddwn i’n annog pawb arall i ofalu am eu hiechyd meddwl
ond yn y pen draw roedd yn rhaid i mi wynebu'r realiti nad oeddwn i'n gwneud cystal fy hun.
“Cymerodd dipyn o ddewrder i ffonio fy rheolwr ar y pryd a dweud fy mod i’n cael trafferth. Roedd yn rhyddhad enfawr ei glywed yn dweud ei fod wedi deall a'i bod hi'n iawn cymryd peth amser i ffwrdd.”
Gwelodd Robert ei feddyg teulu a bresgripsiynwyd meddyginiaeth iddo i ddechrau, ond ceisiodd gyngor pellach ar ôl adwaith drwg.
“I lawer o bobl, meddyginiaeth efallai yw’r ymyrraeth orau, ond wnaeth hi ddim gweithio i mi,” eglurodd Robert. “Felly es i yn ôl at fy meddyg teulu ac awgrymodd e SilverCloud.
“Cofrestrais ar-lein, lawrlwythais yr ap, a dechreuais weithio drwy’r modiwlau.
“Drwy gofrestru i wneud rhywbeth roedd yn rhyddhad ar unwaith. Roedd yn achos o, 'Iawn, mae gennym ni gynllun ar waith – gadewch i ni weld a yw'n gweithio'.”
Mae rhaglenni SilverCloud yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).
Mae offer ac ymarferion syml yn dysgu defnyddwyr sut i herio meddwl negyddol, a all yn ei dro effeithio'n gadarnhaol ar hwyliau ac ymddygiad.
Gall unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn hunanatgyfeirio at y gwasanaeth, heb weld meddyg teulu.
Mae cefnogwr hyfforddedig SilverCloud yn cael ei neilltuo i bob defnyddiwr, y gellir cysylltu ag ef drwy negeseuon drwy'r ap neu'r platfform.
Dywedodd Robert: “Rhoddodd SilverCloud ganiatâd i mi dderbyn bod angen cymorth arnaf - ac yna fe’i darparodd.
“Mae mor hygyrch, mae yno gyda chi ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Gallwch chi ei gario o gwmpas gyda chi yn llythrennol.
“Dechreuais deimlo’n well am bethau’n gyflym. Fe wnaeth fy rhoi yn ôl ar y trywydd iawn.”
Rheolir SilverCloud Cymru gan Wasanaeth CBT Ar-lein GIG Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae ymgyrch #HebYSgwrs y prosiect yn atgoffa dynion bod cefnogaeth ar gael ar-lein ar gyfer problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, heb yr angen i weld meddyg teulu na chwnselydd.
Dywedodd arweinydd y Gwasanaeth CBT Ar-lein, Fionnuala Clayton: “Mae bob amser orau os gallwch chi estyn allan, ond rydyn ni'n gwybod y gall hynny fod yn rhwystr i rai - naill ai oherwydd ei fod yn anymarferol neu'n rhy anghyfforddus.
“I’r bobl hynny, gall hunangymorth ar-lein fod yn opsiwn effeithiol.
“Gyda SilverCloud, does dim rhestrau aros nac apwyntiadau.
“Gallwch ddechrau arni mewn munudau, a thrwy ofalu am eich iechyd meddwl heddiw gallwch helpu osgoi’r angen am gymorth mwy dwys yn y dyfodol.”
Cofrestrwch ar gyfer SilverCloud
Cyhoeddwyd: 17/11/2026