Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnig mynediad cenedlaethol i raglen ar-lein arloesol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan niwed gamblo.
Mae cwrs rhad ac am ddim y GIG - Gofod rhag Niwed Gamblo - ar gael drwy'r dydd a'r nos ar unrhyw ffôn, tabled neu gyfrifiadur heb weld meddyg teulu.
Mae ar gael nawr fel rhan o wasanaeth triniaeth arbenigol newydd ledled Cymru, a lansiwyd ym mis Ebrill ochr yn ochr â gwasanaeth llinell gymorth 24/7.
Mae Gofod rhag Niwed Gamblo yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) a dyma'r rhaglen lles ddiweddaraf sydd ar gael trwy blatfform SilverCloud®.
Dywedodd Jodie Morgan, Rheolwr Gweithredol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n rheoli'r gwasanaeth gamblo a'r llinell gymorth ar gyfer GIG Cymru: “Mae gwella mynediad at gymorth yn rhan allweddol o Wasanaeth Triniaeth Gamblo Cymru Gyfan.
“Mae Gofod rhag Niwed Gamblo yn cynnig ffordd arall i bobl gael mynediad at gymorth cyfrinachol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar amser sy’n addas iddyn nhw, a byddwn yn cefnogi cleifion ledled Cymru i gael mynediad at y rhaglen ochr yn ochr â’n cynnig triniaeth ehangach.”
Dywedodd Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect ar gyfer gwasanaeth CBT ar-lein GIG Cymru: “Trwy SilverCloud®, rydym am gael gwared â chymaint o rwystrau i gefnogaeth â phosibl a rhoi offer i bobl y gallant eu defnyddio mewn ffordd sy'n addas i'w bywydau.
“Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ar eu harferion, meithrin y sgiliau a’r hyder i reoli eu gamblo, a chael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.”
Mae Gofod rhag Niwed Gamblo yn un o 28 rhaglen iechyd meddwl a lles sydd ar gael trwy blatfform SilverCloud®, a reolir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Datblygwyd y cwrs ar-lein gan SilverCloud® gyda chlinigwyr y GIG ac mae eisoes wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus yn Lloegr gan Ymddiriedolaeth Sefydledig Prifysgol Partneriaeth y Canolbarth.
Yng Nghymru, mae ymchwil yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl y flwyddyn yn cael eu heffeithio gan niwed gamblo .
Mae’r llinell gymorth newydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan gamblo, gan gynnwys aelodau’r teulu ac eraill sydd wedi cael eu heffeithio.
Os oes angen, bydd hefyd yn atgyfeirio pobl at wasanaethau triniaeth arbenigol.
Yn ogystal, mae cwrs 12 wythnos SilverCloud® ar gael i unrhyw un dros 18 oed trwy hunanatgyfeiriad.
Mae ar gael 24/7 ar unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad gwe, gan ganiatáu i bobl gael mynediad at gymorth heb apwyntiadau nac ymweliadau â chlinigau.
Gall unrhyw un yng Nghymru 16 oed a hŷn gael mynediad at raglenni SilverCloud® eraill, ar gyfer problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol gan gynnwys gorbryder, straen, iselder a chwsg gwael.
Cynghorir defnyddwyr i dreulio 20 munud y dydd, dair gwaith yr wythnos ar eu rhaglen.
Mae pawb sy'n hunanatgyfeirio at y gwasanaeth yn cael eu neilltuo i gefnogwr sydd wedi'i hyfforddi gan y GIG sy'n cynnig cyngor, arweiniad ac anogaeth.
Ychwanegodd Fionnuala: “Gall y gallu i hunanatgyfeirio a gweithio trwy’r rhaglen ar eich cyflymder eich hun wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai a allai fel arall gael trafferth ceisio cymorth.
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y gwasanaeth newydd hwn, gan helpu sicrhau y gall unrhyw un yr effeithir arno gan niwed gamblo gael mynediad at gymorth yn gyflym, yn breifat ac ar eu telerau eu hunain.”
Gall unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo – gan gynnwys aelodau o'r teulu – gael cymorth drwy ffonio'r llinell gymorth gamblo 24/7 ar 0808 281 9265.
Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu ond yn y cyfamser gall gweithwyr proffesiynol ac unigolion atgyfeirio at y Gwasanaeth Triniaeth Gamblo ar 03000 859464 neu drwy e bostio GamblingService@wales.nhs.uk .
Hunanatgyfeiriwch at raglen Gofod rhag Niwed Gamblo yn: nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Cyhoeddwyd: 08/06/2026