Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth iechyd meddwl ar-lein i blant a phobl ifanc yn lansio yng Nghymru

Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein i Blant a Phobl Ifanc

Bellach gall pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru gael gafael ar therapi iechyd meddwl ar-lein am ddim, trwy’r GIG, heb orfod cael atgyfeiriad gan feddyg teulu. 

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ym Mhowys, mae gan therapi ar-lein SilverCloud gyfres o raglenni cymorth newydd i helpu pobl ifanc rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles. 

Gall rhieni a gofalwyr gofrestru ar gyfer rhaglen therapi 12 wythnos ar-lein am ddim i gefnogi plant a phobl ifanc 4-18 gyda gorbryder ysgafn i gymedrol. Gall pobl ifanc rhwng 16-18 oed hefyd gofrestru eu hun, heb angen caniatâd oedolyn, i gefnogi gorbryder neu hwyliau isel yn uniongyrchol trwy eu ffôn symudol, llechen neu liniadur. 

Rhaglenni i gefnogi plant a phobl ifanc: 

  • Cefnogi Plentyn Gorbryderus - i rieni plant rhwng 4-11 oed. 

  • Cefnogi Person Ifanc Gorbryderus - i rieni pobl ifanc rhwng 12-18 oed. 

  • Gofod o Orbryder - i bobl ifanc rhwng 16-18 oed 

  • Gofod o Hwyliau Isel - i bobl ifanc rhwng 16-18 oed 

  • Gofod o Hwyliau Isel a Gorbryder - i bobl ifanc rhwng 16-18 oed 

Mae pandemig COVID-19 wedi cael dylanwad sylweddol ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Yn 2021 roedd gan 1 ym mhob 6 plentyn a pherson ifanc cyflwr iechyd meddwl, megis gorbryder neu iselder.¹ Mae hyn wedi cynyddu o 1 ym mhob 9 yn 2017.²  

Ers lansio’r rhaglenni hunanatgyfeirio i oedolion ym Medi 2020, mae’r gwasanaeth wedi helpu dros 30,000 o bobl yng Nghymru rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles. Bydd cael y gwasanaeth ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc yn galluogi miloedd yn fwy o bobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.  

Nod cyflwyno’r gwasanaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd ledled Cymru yw cwrdd â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl plant trwy gynnig mynediad cynnar at gefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen. 

Caiff llwyfan SilverCloud ei gynnal gan GIG Cymru mewn partneriaeth â SilverCloud gan Amwell®, darparwr blaenllaw o Therapi Gwybyddol Ymddygiadol digidol (CBT) sydd wedi'i brofi'n glinigol.  

Dywed Jess Ferdinando, Cydlynydd Cynorthwyydd Seicolegol a Chlinigol, SilverCloud Cymru:  

"Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i blant a'u teuluoedd. Yn ogystal â’r straen arferol o dyfu i fyny, mae pobl ifanc yn dal i fyw gydag effeithiau argyfwng iechyd byd-eang.  

"Mae cefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn gallu bod yn heriol. Mae SilverCloud yn cynnig cymorth ymarferol sydd wedi'i brofi'n glinigol i bobl ifanc a'u gofalwyr deall a rheoli gorbryder a hwyliau isel.  

"Mae ein holl raglenni yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, offer a gweithgareddau ymarferol i rymuso pobl ifanc i reoli eu problemau a chymhwyso'r hyn maen nhw'n ei ddysgu yn eu bywydau bob dydd. Pan fydd bywyd yn brysur, mae SilverCloud yn hyblyg; Gallwch gyrchu ein rhaglenni therapi ar-lein o unrhyw ddyfais a gweithio drwyddyn nhw ar gyflymder sy’n siwtio chi. 

"Mae ein gwasanaeth peilot i blant a phobl ifanc eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ym Mhowys, felly rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ymestyn y gefnogaeth yma i bobl ifanc a'u teuluoedd ledled Cymru."  

Mae rhaglenni SilverCloud yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), therapi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn gweithio drwy annog pobl ifanc i herio'r ffordd y maen nhw’n meddwl ac ymddwyn mewn sefyllfa, er mwyn delio â heriau bywyd yn well. 

Cefnogir technoleg SilverCloud gan dîm o gydlynwyr therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein sy'n cynnig adborth ac arweiniad personol rheolaidd i’r defnyddwyr, sy'n golygu eu bod yn cael budd o wasanaeth ar-lein a gwasanaeth a gyflwynir gan weithwyr proffesiynol clinigol. 

Mae pob rhaglen 12 wythnos yn cynnwys offer a gweithgareddau i helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau i reoli eu gorbryder neu hwyliau isel. Am y canlyniadau gorau cynghorir pobl ifanc a'u teuluoedd i ddefnyddio'r gwasanaeth 3-4 gwaith yr wythnos am 15-30 munud bob tro. 

 

Cyfeiriadau: 

  1. NHS Digital (2021). ‘Mental Health of Children and Young People in England 2021’. Ar gael ar: https://digital.nhs.uk/data-and-information/publications/statistical/mental-health-of-children-and-young-people-in-england/2021-follow-up-to-the-2017-survey 

  1. NHS Digital (2018). ‘Mental Health of Children and Young People in England 2017.’ Ar gael ar: https://digital.nhs.uk/data-and-information/publications/statistical/mental-health-of-children-and-young-people-in-england/2017/2017  

 

Cyhoeddwyd: 20/10/2022